Diwrnod 7
A heddiw (31Rhagfyr) mae hi’n ddiwrnod saith a dyma’r bennod a’r frawddeg gyntaf:
“Mae hi'n Ddiwrnod saith o 12 Diwrnod Gwyllt ac mae'r dasg o'u rheoli i'w rhannu.”
Mewn coetir conwydd tawel, mae fflach o goch yn gwibio rhwng y coed… y wiwer goch gudd, yn brysur yn chwilota am fwyd ar gyfer y gaeaf.”
Yn anffodus, does dim gwiwer goch yn agos i fi o gwbl, felly es yn ôl i weld y lluniau o wiwerod coch a thynnais eleni yn yr Alban. Dyma un a oedd yn bwydo fel aderyn. Mi faswn wrth fy modd yn gweld gwiwerod coch yn agosach i le dwi’n byw, ond rhaid mynd i Droset i ynys Brownsea am hynny (163 milltir). Mae Sir Fôn yn bellach!
Tynnwyd y llun yma yn Aigas, y llynedd. Cawson ni (fy ffrind a fi) wythnos wych yn Aigas, sydd yn ganolfan bywyd gwyllt.Wel, field centre yn Saesneg ond dydy hyn ddim yn cyfieithu yn uniongyrchol nac ydy? Dwi ddim yn meddwl mai Canolfan Maes ydy beth sydd angen yn fama. Beth bynnag, dwi’n siŵr fy mod wedi sôn am fy mhrofiad pan ddes i adre, mewn blog. Ond na, dwi wedi tsecio a gweld fy mod heb gofnodi’r profiad hynny! Lle arbennig iawn, lle gwelson ni eryrod aur, dolffiniaid, cogydd a gymaint o adar a hefyd ymweld â llefydd mor brydferth fel Loch Maree a chymoedd di-ri. Dyma lun o giw tylluan frech a oedd wedi syrthio (neu ddringo?) allan o’r nyth. Ond yr oedd y gwardeiniaid yn hyderus fase’r rhieni yn ei warchod.
A dyma un o’r cathod gwyllt sydd ar y stad fel rhan o raglen bridio. Mae’r gath wyllt yn yr Alban yn brin iawn r rŵan a thrwy raglenni fel hwn, mae hi’n bosib tyfy’r boblogaeth a rhyddhau cathod yn ôl i’r gwyllt. Hyd at hun mae’r ymgais wedi bod yn llwyddiannus.

0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home