Ailddysgu

Sunday 15 February 2009

Dydd Gwyl Dafydd

Dw i wedi archebu gwesty yn Conwy (oes na treigliad?) am y pewythnos diwedd Chwefror - a felly byddan ni yng Nghymru am rhan o Mawrth y cyntaf. R'wy'n gobeithio gwneud dipyn o gerdded; efallai mynd i'r gwarchodfa adar - a hefyd un ol i Gaernarfon i ymweld bedd fy rhieni.

Fel arfer byddaf i yn mynd ar y tren - ond tro yma byddan ni'n gyrru - a mae'r ci yn mynd hefyd. Dwi'n cynllunio mynd i siop lyfrau yn Llandudno sy'n gwerthu llyfrau ail law - i gael mwy o lyfrau Cymraeg. D'wi wedi gorffen darllen yn Ol i Lleifior - a nes i mwynhau o yn fawr iawn.

Ar y funud dwi'n darllen Ar y Lein gan Bethan Gwanas - ond hefyd yn gorffen On the Black Hill (Bruce Chatwin) am yr ail dro - oherwydd dan ni yn trafod o yn y clwb darllen. Gormod i ddarllen, i dweud y gwir hefo llyfrau Cymraeg yn ogystal a llyfrau Saesneg. Ond, oherwydd fy mod i ddim yn beicio i'r gwaith (formod o eira o gwmpas o hyd) o leia medrai darllen ar y bys fory.

English
We've booked B&B in Conway next weekend so will be in Wales for st David's Day=hope to do a bit of walking; visit the RSPB reserve and my parents' grave,
We usually go by train but are taking the car - and the dog. I'm planning to visit the 2nd hand book shop in Llandudno to restock on Welsh books. Have just finished Back to lleifior - which I really enjoyed.
I'm currently reading on the line by Bethan Gwanas but also finishing on the black hill (Chatwin_ for the second time - reading it for our reading group. Too much to read, to be truthful with Welsh books as well as English. But as I can't cycle I can at least read on the bus to work tomorrow

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home