Ailddysgu

Sunday 14 February 2010

Darllen Y LLyfrgell - a pethau arall


Dwi'n darllen ry gyflym. Er fod o'n peth da bod digon rugl yn fy narllen, dwi'n mynd trwy lyfrau ac yn rhedeg allan. Felly dwi wedi gwneud rhstri ohonnyn nhw i archebu o'r llyfrgell (achos fy mod yn byw yn Lloegr does dim llyfrau Cymraeg ar gael i fenthyg ar wahan i "Inter-library loan". (Be ydi hynny'n Gymraeg - Menthig Rhwng Llyfrgellau?)) A son am llyfrgellau, dwi newydd orffen Y LLyfrgell a dwi'n meddwl ei fod o'n wych. Cymysgiad o ddirgelwch, llenyddiaeth, ffuglen gwyddoniaeth (? Science fiction?) a jyst stori dda a clyfar. Fel arfer, dwi ddim yn hoff iwan o lyfrau lle mae'r awdur yn symud rhwng gwahanol storiau cyfrochrog - a roedd rhaid atal fy hyn rhag symud i'r bennod nesaf am Ana (neu pwy bynnag). Felly ar ol gorffen, mae Atyniad ar y rhestr hefyd - a hefyd llyfr Saesneg Fflur Dafydd - "Twenty Thousand Saints". Dyna be ydi bod yn ddwy ieithog a gwych - ennill gwobrau yn y ddwy iaith! Dyma'r rhestr ar y funud:


Hi a Fi - Eigra Lewis Roberts

Cymer y Seren - Cefin Roberts

Y Bachgen Mewn Pytamas - John Boyne

Dyfi Jynschiyn - y dyn blin

a Dyfi Jyncshiyn - y ddynes yn yr haul

Fy Mrawd a Minnau - Alun Jones

Atyniad - Fflur Dafydd - a

Corcyn Heddwch - Becca Brown
Mae nhw i gyd yn lyfrau ffuglen. Ond hefyd dwi'm mwynhau llyfrau ffeithiol hefyd a llyfrau eraill sy ddim yn ffuglen. Dyddiaduron, fel engraifft. Dwi wedi son am darllen Dyddiadur America (dim wedi gorffen hwn eto) -a dwi wedi darllen llyfrau Bethan Gwanas i gyd, dwi'n meddwl a dwi wedi mwynhau nhw i gyd, enwedig Ar Y Lein, ac Ar Y Lein eto - a.y.y.b. Ond yn ol Bethan ei hyn, dwi yn y lleiafrif - dydi llyfrau Cymraeg hunangofiant a llyfrau arall tebyg ddim yn werthu llawer. Os wir, mae hwn yn drueni. Dwi wedi cael gymaint o fwynhad allan o ddarllen llyfrau fel yma - a wedi dysgu dipyn hefyd! Y fath arall dwi'n darllen ydi llyfrau am byd natur - dwi'n dod yn ol i Blwyddyn Iolo (Iolo Williams): dyddiadur am bywynd gwyllt Cymru. Trwy hwn a llyfrau eraill dwi hefyd wedi dysgu'r gair Cymraeg am sawl anifail ac adar. Mae rhai enwau yn ddiddorol iawn - ac llawer gwell na'r enwau Saesneg - fel pioden y mor (oystercatcher) a mae enwau fel "morlo" a "dwrgi" yn deud rhywbeth am yr anifeiliad, tydyn?.
Ond dwi ddim yn gwybod os ydi'r darllen i gyd yn helpu hefo siarad a sgwennu yn Cymraeg - a'r prif reswm am y blog (fel i ddysgwyr eraill) ydi cael ymarfer sgwennu. Ond mae o lawer mwy annodd cael cyfle i siarad Cymraeg. Dwi'n dal i fynd i weld Gwilym sydd yn wreiddiol o Sir Fon a cael sgwrs hefo fo - a byddaf yn brwydro i cofio'r gair Cymraeg dwi eisau yn aml. Edruchais yn ol ar cofnod fy mlog blwyddyn yn ol - ac oeddwn yn dweud:
Fedrai ddim helpu synnu - dim ots faint ydw i'n ddarllen; gwylio S4C a gwrando ar radio Cymru - a felly, dwi'n honni fy mod i'n dysgu geiriau newydd - mae wastad gymaint o eiriau dwi ddim yn gwybod.
Dwi'n wir gobeithio bod fy ngeirfa wedi ehangu rhwyfaint. Dwi'n meddwyl ei bod o - ond y cwestiwn ydi - ydwi'n anghofio geriau mwy gyflym na dysgu nhw?

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home