Ailddysgu

Thursday 13 January 2011

Diffyg adnoddau gwrando tra beicio. Lle mae Pigion?


Oes rhywyn yn gwybod be sy wedi digwydd i "Pigion" - podlediad gan y BBC “i’r rhai sydd yn dysgu Cymraeg - a’r rhai sydd wedi dysgu“ - fel mae'n nhw'n deud ar gychwyn bob un. R’on i’n arfer gwrando i “Pigion“ wrth beicio i’r gwaith. Ond does na ddim un ar gael ers mis Tachwedd, hyd a welai i. Tybed os ydy’r gyfres yn un o ddioddefwyr y torriadau? Os hynny, mae o’n drueni. Does dim lawer o bethau Cymraeg fel hyn (sydd ddim yn gerddoriaeth) ar gael.
Dwi ddim wedi beicio i'r gwaith y flwyddyn yma - ond dwi ar fin ddechrau eto, felly bydd angen cael rywbeth i wrando ar, ar y beic, os dwi am gwneud y gora o'r amser i weithio ar fy Ngymraeg. Neu - yn ol i bodlediau Saesneg....

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home