Ailddysgu

Tuesday 18 January 2011

Mwy o ddarllen

Ar y funud dwi’n darllen (neu newydd orffen) pump lyfr. Un ydy’r llyfr (diwethaf, dwi’n meddwl) gan Geraint V Jones – Si Bei – Helyntion Wil Bach Saer - dwi'n darllen hwn o hyd; un arall dwi newydd orffen ydi “Lladdwr” gan Llion Iwan (cyffrous!); llyfr arall ditectif: Tacsi i’r tywyllwch – gan Gareth Williams - hefyd newydd wedi ei orffen); hefyd mae’r llyfr am y 100 lle y ddylech ei weld cyn marw; a’r olaf ydi llyfr Bethan Wyn Jones, Natur y Flwyddyn. Mae o’n beth da, dwi’n meddwl cael un neu ddau lyfr ffeithiol ar y gweill. Mae Natur y Flwyddyn yn “daith drwy flwyddyn ym myd nature”. Gyda’r nodion ar bob fis mae na luniau ardderchog – a hefyd dyfynidadau i bob mis gan beirdd Cymru. Dwi’n cofio’r ein bod ni yn adrodd un o'r cerddi am Ionawr – "Wyt Ionawr yn oer, a’th farrug yn wyn", a.y.y.b. yn yr ysgol gynradd. Dwi’n hoffi llyfrau lle dwi’n darllen dipyn bach bob dydd neu bob hyn a hyn. Yn aml, dwi’n darganfod llyfrau ffeithiol reit anodd hefo lawer o eiriau’n anadnabyddus i mi. Felly mae’n dda gwneud jyst dipyn bach – yn enwedig os oes angen defnyddio geiriadur yn aml. Ar y llaw arall, mae cael stori gyffrous yn dda i gymell ddarllen ffuglen – a dysgu geiriau newydd ar y ffordd.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home