Ailddysgu

Sunday 27 February 2011

Arwyddion o'r Gwanwyn




Cawsom dipyn o haul dydd Iau diwethaf – ond wnaeth o ddim para’n hir! Ond are ol gweld llun ar blogBethan Gwanas (ar 21ed o Chwefror) o’r grifft yn ei phwll, es allan i weld os oedd y llyfantod wedi bod yn dodwy wyau yn ein pwll. O flwyddyn i flwyddyn dwi'n cadw nodyn o pa bryd mae’r grifft yn cael ei ddodwy a fel arfer ar ddechrau mis Mawrth mae’r llyfantod yn dod. Felly mae o’n gynnar blwyddyn yma (26ed). Ond ar ol eira a rhew cyn Dolig a dros Dolig mae o wedi bod yn fwyn am ryw fis rwan a mae arwyddion o Gwanwyn wedi dechrau dangos.

Dyma’r cening pedr sydd wedi dod allan yn yr ardd – a hefyd dyma salad ces i o’r ty gwydr ddoe – dydi o ddim yn ddrwg an Chwefror, nac ydi?

Ond bydd rhaid plannu hadau letys os dyn ni am cael salad hefo letys yn hwyrach yn y blwyddyn.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home