Ailddysgu

Sunday 30 January 2011

Gwylio adar yn yr ardd: The Big Garden Birdwatch

Dwi wedi bod yn cymryd rhan yn “The Big Garden Birdwatch“, sydd wedi trefnu gan yr RSPB heddiw. Be ydi o yn Gymraeg, tybed? Beth bynnag des yn ôl ar ol cerdded hefo’r ci, bore ma, ac eistedd yn y gegin lle dwi’n medru gweld un rhan o’r ardd, lle dwi wedi sefydlu “Gorsedd bwydo“ (??) “bird feeding station“ yn Saesneg. Mae lle i fwyd, dwr, a peth sy’n dal hadau a hefyd lle i hongian hanner coconut sydd wedi llenwi hefo brasder ac yn y blaen. Does dim llawer o adar wedi dod i’r orsaf ers iddo gael ei sefydlu, ond mae nwh yn dechrau dwad rwan. Beth bynnag, dyma be welais i, mewn awr:

Titw Tomos Las (2)
Titw Mawr (2)
Titw Cynffon-hir (1)
Telor Penddu (1)
Mwyalchen (2)
Robin Goch (1)
Aderyn y Tô (1)
Dryw Bach
a Llwyd y Gwrych (1)

Dwi’n trio dysgu’r enwau Cymraeg hefyd. Mae’r rhan mwyaf o enwau’r adar y welais i bore ma yn gyfarwydd i fi, ond nid y telor penddu (ond ei fod yn gyfeithiaid llythrennol o’r Saesneg), na’r llwyd y gwrych. R’oeddwn i’r erioed wedi gweld telor penddu o’r blaen ac r’oedd angen edrych yn y llyfr. Er na ymwelwyr ha ydi o, mae’n amlwg bod llawer yn gaeafu yn y gwlad hon yn ddiweddar. i ddweud y gwir, pen brown oedd gan yr un welais i, dim pen ddu, oherwydd iar oedd hi. Ond oedd hi’n dlws iawn. A dwi wedi colli’r peth sy’n cysylltu’r camera hefo’r cyfrifiadur, felly dwi ddim yn medru rhoi’r llyniau yma!!

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home