Ailddysgu

Monday 31 January 2011

Cymraeg yn canol y Saesneg a diwrnod diwedd y fis

Na, dim fi dwi'n siarad amdano. Dwi newydd gweld, wrth edrych ar fy mlog arall, Saesneg, fy mod i wedi rhoi blog yn y lle anghywir - yng nghanol y blog natur. A dwi wedi roi o islaw - i fo cael bod yn y lle iawn hefo'r lleill.

Mae o wedi bod yn ddiwrnod haelog, bendigedig yma heddiw - ond oer iawn hefo gwynt main. Roeddwn yn gweithio yma heddiw, yn ysgrifennu. Felly roeddwn yn medru mynd am dro amser cinio a mwynhau y haul dipyn haul dyn ni ddim wedi gweld tan heddiw, am sbel. Hefyd, rwan dwi wedi darganfod y telor penddu yn yr ardd dwi'n gweld hi yn aml - a mae hi yn hel yr adar eraill oddiwrth y bwyd.

Monday, 3 January 2011

Ysgol Galan

Llynedd, r'on i'n edrych ymlaen at yr Ysgol Galan ym Mhontypwl - ond roedd gymaint o eira, a chafodd yr ysgol ei gohirio. Eleni, dwi'n mynd ar cwrs ym Mangor - Ysgol Galan, sy'n rhedeg o ddydd Fercher i ddydd Gwener. Dwi erioed wedi bod ar cwrs yn y Prifysgol o'r blaen (ac ond unwaith i ysgol undydd yn y gogledd) a dwi'n edrych ymlaen - gobeithio ehangu fy ngeirfa a falle dysgu dipyn o ramadeg........Dechrau da i'r blwyddyn newydd (gobeithio!)

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home