Ailddysgu

Friday 11 February 2011

Cymraeg yn Llundain: Pawb A'i Farn

Cymreictod yn Llundain a’r Canolfan Cymry Llundain


A welsoch chi “Pawb A’i Farn” a oedd y dod o Lundain, neithiwr - trafodaeth diddorol yn dilyn cwestiwn am dyfodol y Canolfan Cymry Llundain ag yr angen am gefnogi’r cymdeithas –am Gymreictod a gwahanol ffyrdd o ddangos hynny ag o fod yn Gymraeg yn Llundain. Glenys, sy’n tiwtor ar y cwrsiau undydd Cymraeg a ofynnodd y cwestiwn: “Mae angen cefnogaeth ar Ganolfan Cymry Llundain: fasech chi’n cytuno bod angen adeilad pwrpasol i gynnal cymreictod yn Llundain”

Er bod rhai yn deud nag yr adeilad sy’n bwysig ond y cymuned, swn i’n cytuno hefo Glenys bod yr adeilad ei hyn yn bwysig hefyd. Peth arall a ddaeth i’r golwg oedd y cefnogaeth mae’r Cymry Cymraeg yn Llundain yn dangos trwy siarad Cymraeg hefo eu plant (neu dim). Roedd un o’r panelwyr yn dadla bod gymaint o bobol heb Saesneg fel iaith cyntaf yn siarad eu ieithoedd cyntaf ac yn llwyddo i fagu plant ddwyieithog felly pam ddyle Gymraeg a’r Cymry Cymraeg fod yn wahanol? I fi, mae’r faith bod Cymraeg yn iaith lleiafrif yn gwneud ryw gwahaniaeth yn y ddadl hon. E.e., os na Sbaeneg neu Ffrangeg yw eich iaith cyntaf, bydd rai bobol yn siarad Saesneg yn dda – ond dim yn teimlo’n rugl – nag yn gyffyrddus - yn siarad Saesneg. Ond mae bob oedolion sy’n siarad Cymraeg yn siarad Saesneg hefyd heddiw – ag yn anhebyg i Gymraeg, os dych chi’n byw yn Lloeger byddwch wastad yn clywed Saesneg o gwmpas – felly mae o’n hawdd syrthio i fewn i siarad Saesneg, dwin meddwl. A mae gennyn ni llawer llawer llai o siaradwyr Cymraeg i gymharu a iaith mawr fel Sbaeneg neu Ffrangeg.


Roedd rhai pobol ddim wedi darganfod y cymuned Cymraeg am dipyn – er ei fod wedi bod yn byw yn LLundain. Roedd rhai o’r bobol ifanc yn teimlo’n fwy negyddol am y canolfan – am yr adeilad, y digwyddiadau a’r ffaith bod dim llawer o bwyslais ar y Cymraeg.


Ron i ddim yn gwybod am y Ganolfan o gwbl nes i fi ddarganfod yr ysgolion undydd a dwi'n ei gwerthfawrogi yn fawr. Ond dydyn nhw ddim yn digwydd yn aml – ond tair gwaith y blwyddyn mae nhw - ond trwy mynd, heblaw dysgu Cymraeg dwi hefyd wedi cwrdd a dysgwyr eraill - a cymry cymraeg a wedi mynd i sawl ddigwyddiad - rhai i gefnogi'r canolfan ag i godi arian sydd ddrwg angen am yr adeilad.

Er fy mod i'n medru cerdded ir Ganolfan o Euston, mae'r holl daith o Milton Keynes dipyn yn bell i fynd I ddigwyddiau gyda'r nos heb dod adre un hwyr iawn. Er engraifft, es i weld Meinir Gwilym yna ond roedd rhaid gadael cyn y diwedd.

Labels:

1 Comments:

At 13 February 2011 at 10:46 , Blogger neil wyn said...

Mae hynny'n bwnc diddorol iawn. Ar un pryd wrth gwrs gaeth Cymry alltud llawer o gyfleoedd i gymdeithasu yn eu mamiaith trwy'r capeli di-ri a fodolodd yn ninasoedd fawr Lloegr (roedd 'na 50 yn Lerpwl!), yn enwedig gyda'r mwyafrif yn dewis ymaelodi ar ol gadael Cymru. Erbyn heddiw dim ond canran bach sy'n mynychu capeli yng Nghymru, heb son am y nifer pitw sy'n goroesi yn Lloegr, sy'n wneud canolfannau fel yr un yn Llundain yn pwysicach byth. Fasai'n braf gweld rhywbeth tebyg ar lannau Mersi. Does dim byd mewn gwirionedd sy'n debyg o dennu pobl ifanc, er wrth gwrs mae'n digon posib i mi gyrraedd pethau yn Sir y Fflint/Wrecsam o fewn tri chwater awr.

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home