Ailddysgu

Wednesday 16 February 2011

Can Lle: Caernarfon a'r tafarn "The Black Boy"


Ydych chi wedi bod yn gwylio Can Lle? (Cyfres diddorol, dwi’n meddwl) a hefyd mae’r llyfr yn dda. Er ei fod yn edrych fel “coffee table book“ (be ydi hynny yn Gymraeg - cyfieithiad llythrenol, tybed?) mae o’n llawn o wybodaeth hanesyddol, diwydiannol a diwylliannol. Wn i iddim os byddaf yn medru ymweld a’r holl llefydd, ond dwi am trio gweld rhai o’r llefydd dwi ddim wedi ymweld a eto.

A mae o’n dda gweld bod gymaint o sylw ar Gaernarfon, fy hen dre i, ar S4C yn ddiweddar. Mae’r cyfres yn ymweld a’r castell - ond os dych chi eisiau cael argraff wahanol mae tafarn Caernarfon (The Black Boy) yn cael sylw yn y gyfres Straeon Tafarn – ac ia, hwn oedd fy tafarn lleol i, pan oeddwn yn byw yn y dref!

Labels: , , ,

1 Comments:

At 16 February 2011 at 17:21 , Blogger neil wyn said...

Welais 100 Lle o yn ymweled á Chastell Caernarfon, diddorol iawn. Rhaid trio dal i fyny efo gweddill y cyfres tra eu bod nhw ar gael ar y we. (gyda llaw, fel ti'n awgrymu 'llyfr bwrdd coffi' ydy o - yn ól Geiriadur yr Academi - sy'n yr un mor ddiflas a 'meicrodon' am wn i! Wedyn wrth gwrs ddaeth 'popty ping' ar lafar wlad, sy'n lot gwell tydi!)

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home