Ailddysgu

Tuesday 15 February 2011

Beicio i’r gwaith a bywyd gwyllt

Dyma fy resymau arferol am feicio i’r gwaith:

1. Ymarfer corff (yn rhad ac am ddim)

2. Mae o’n wyrdd

3. Ffordd rhad o fynd i’r gwaith

4. Mewn tywydd braf, yn enwedig, mae o’n bleserus iawn

5. Dwi’n hoffi bod allan yn y cefn gwlad/y parciau

Heddiw ces i fy atgoffa o reswm arall – sydd yn dilynu (5). Wrth beicio ar y llwybr coch yn ymyl y lôn (mae gan MK rwydwaith o lwybrau coch) gwelais aderyn yn eistedd ar y ffens i’r dde – yn ymyl y gwrych, yn agos iawn, a sylweddolais mai gwalch glas (sparrowhawk) oedd o. Mae gwybodaeth i gael yma:

Mae’r adar yma o gwmpas yn MK, ond dwi ddim yn gweld nhw yn amal iawn. Adar ysglfyfeuthus ydyn nhw, a mae nhw’n hardd iawn. Wrth i fi fynd heibio, ehedodd yr aderyn i ffwrd. A dyna fo, meddyliais. Gwelais y streipiau ar ei fron yn glir. Ond ychydig o funudau wedyn – dyma’r gwalch glas yn flio heibio fi, i’r chwith, dim yn bell oddiwrth y ddaear – a roeddwn i yn medru ei weld o yn glîr iawn. Wn i ddim pam mae ganddo fo'r enw gwalch glas - swn i'n ddeud bod y lliw yn fwy lwyd - one efallai ryw lwyd-las ydi o.

Labels:

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home