Ailddysgu

Sunday, 23 January 2011

Peiriant arian Cymraeg yn Milton Keynes

Mi fydda i’n mynd i’r “Co-operative“ - y siôp fach sydd yn yr ystad yn Great Linford, ryw ddwy filltir o fy nhŷ, wiethiau, yn enwedig pan dwi’n mynd i weld Gwilym, sydd yn byw yn y flatiau dros y ffordd i’r siôp. Mae “cash machine“ yn y co-op; wn i ddim be ydi o yn Gymraeg; peiriant pres, neu arian? Ond y peth diddorol am y peiriant yma ydi ei bod o yn cynnig y dewis o defnyddio Saesneg neu Cymraeg. A hynny ryw 200 milltir o Gymru. Swn i’n hoffi gwybod sut ddaeth o i Newport Pagnell!

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home