Ailddysgu

Thursday 10 March 2011

Perllan newydd


Dwi wedi sôn ar fy mlog am y perllan angyfreithlon - a rŵan dyn ni wedi dechrau perllan (bach, bach) newydd. Stori hir, ond mae gennyn ni (myfi, fy ngŵr a dau ffrindiau) acyr o dir ryw milltir i ffwrdd. Mae o braidd yn wyllt ar y funud ond dyn ni newydd osod bedwar coeden newydd yna. Dau goeden afal a dau goeden gellygen. Felly edrych ymlaen i’r ffrwythau i ddod. (Mae'r llun yn dangos fy mab hefo yn o'r coed)

Hefyd, dwi newydd orffen darllen Gwen Tomos, gan Daniel Owen. Doedd o ddim rhy hawdd – ac yn cynnwys geiriau nad oeddwn yn nabod – hen geiriau, sydd ddim yn cael ei defnyddio heddiw, dwi’n meddwl. Nes i fi chwilio am fanylion y llyfr, doeddwn i ddim wedi sylwyddoli ei fod yn llyfr mor gynnar – dwi ddim wedi darllen llyfr o’r cyfnod yma o’r blaen.

Labels: , ,

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home