Ailddysgu

Friday 1 April 2011

Rownd a Rownd

Oes rhywyn arall yn hoff o Rownd a Rownd? Mae’r cyfres presennol wedi gorfeen a mi fyddai yn ei golli o. Efallai mae esgus i wylio sebonau operau ydi dweud wrtha’ch hun y ddylia chi gymryd bob cyfle i wrando ar pethau Gymraeg. Ond dwi yn trio clywed digon o Gymraeg a chael amrywiaeth o wahannol fath o raglynnau hefyd. Felly mae’r bore yn dechrau yn amal gyda gwneud ymarferion (i helpu’r gliniau!) i gyfeiliant Radio Cymru (trwy’r teledu) Wedyn gyda’r nos, os dyn ni’n gwylio teledu mae o’n dibynnu beth sydd ar gael - a be mae fy ngwr eisiau gwylio. Ond dwi’n cyfadde fy mod i yn gwylio Pobol y Cym - ond ddim yn gyson. Un peth, mae’r tafodiaeth yn llawer mwy annodd i fi (er bod Gogs ynddo fo hefyd wrth sgwrs - dwi’n meedwl ei fod yn reol anysgrifennedig bod rhaid cael rhai pobol o’r Gogledd mewn rhaglen sydd yn dod o’r de, a.y.y.b). Ond ydi safon y rhaglen ddim yn dda iawn. Ac er bod Rownd a Rownd ar gyfer plant, dwi’n meddwl bod y safon yn uwch o lawer; a’r storiau llawer mwy gredadwy - o a un peth arall - mae’r cymeriadau yn fwy glên, ar y cyfan.

Labels: ,

1 Comments:

At 3 April 2011 at 15:09 , Blogger neil wyn said...

Dwi'n trio gwylio Rownd a Rownd pan dwi'n cofio.
Dwi'n cytuno, mae prif dafodiaeth Pobl y Cwm yn annodd i ddysgwyr yn y gogledd - Dwi'n nabod nifer sydd wedi rhoi gynnig iddo fo, ond sydd wedi gorfod troi yr is-deitlau saesneg ymlaen. Pop tro dwi'n dweud 'tria Rownd a Rownd'!

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home