Ailddysgu

Saturday 16 February 2013

Arbrofi ar yr iPhone: problemau technegol

Wel, dwi ddim yn medru rhoi lluniau o'r ffon newydd i'r MacBook
Felly dwi am trio hefo'r ffon a gweld os medrai rhoi ychydig o luniau yma. Dyma blodau gynnar iawn: dwi'n meddwl mae'r draenen ddu ydy o? Arwyddion gynnar o'r Gwanwyn efallai?  (Ar ol postio hon/hwn (?) o'r iPhone dwi wedi mynd ar y gliniadur i newid o dipyn ac i ychwanegu dipyn mwy).  Felly mae o'n bosib cael y lluniau trwy defnyddio'r ffon, yn hytrach na'r gliniadur.  Ond dydy how ddim yn ffordd dda o gwneud hyn.  Beth bynnag, dwi wedi bod yn hynnod o frysur yn ddiweddar - gormod yn digwydd ac i'w gwneud yn y gwaith ac yn brysur tu allan i'r gwaith hefyd.  Ond heddiw, gyda'r haul yn gwennu, doeddwn i ddim yn medru aros i fewn prynhawn 'ma, er bod pethau i'w gwneud.  Fel, ac allan am dro, ac i fynny'r lon bach sydd yn arwain o'r comin.  Roedd y gwrych yn llawn o adar, ac arwyddion o Natur yn dechrau deffro unwaith eto.

Labels:

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home