Mae o’n anodd defnyddio’r cyfriadur - neu’r gliniadur, i fod yn wir, gyda Sox (y gath) yn mynu eistedd arno fo. Ta waeth. Dwi wedi bod allan yn mwynhau yr haul, gan ei fod braidd yn brin, y dyddiau yma. Felly dyma ychydig o luniau....
Adfeilion o hen eglwys Stanton.....yn anffodus wedi cael eu fandaleisio (mi wn, dim gair da!) yn ddiweddar. Mae’r adfeilion yma ond ryw ddwy a hanner filltir i ffwrdd o’r tŷ, ond mae o fel gwlad wahannol: darn o gefn gwlad yn y ddinas. Mae nhw’n agos i’r gwarchodfa natur, ac yn fama mi fyddaf yn clywed y gôg fel arfer.
Mae’r eyrlysiau gyntaf allan yn yr ardd, o’r diwedd a hefyd yn fama, yn Great Linford lle ’roedd ystad mawr - a heddiw mae’n lle braf i gwrydro o gwmpas.
Mae’r gamlas, sydd ar gyrion yr hen ystad, hefyd yn lle braf i gerdded, yn enwedig pan mae’r haul allan, fel ’roedd hi ddoe, a dyma llun o hen dafarn - tŷ rŵan.
A fory, rhwybeth gwahanol iawn. I'r ddinas fawr i weld y ddrama
Saer Doliau gyda cyfeillion o'r grwp darllen Llundain. Dwi'n edrych ymlaen.
1 Comments:
Edrych fel tro braf iawn. Biti fod y dafarn wedi cau; mae'n edrych yn le neis am ddiod ar ddiwedd taith.
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home