Pedwar peth dwi’n hoffi,
er fy mod i ddim yn gwneud llawer o goginio’r dyddiau yma. Ta beth, mae
hi wedi nod yn benwythnos oer, oer a llwyd. Gwahanol iawn i benwythnos
diwethaf, pan roedd yn teimlo fel Gwanwyn. A fell y does dim llawer o
awydd i godi yn y bore, er bod rhaid yn y diwedd i fynd allan gyda’r ci.
Ond cyn gwneud hynny, dwi wedi bod yn darllen dipyn bach. Ar y
funud dwi’n darllen Y Storïwr. Mae o wedi cael adolygiau da iawn.
Doeddwn i ddim yn siŵr ar y ddechrau, ond rŵan dwi’n mwynhau o gymaint.
Llyfr dwi ddim eisiau gorffen, felly dwi’n trio peidio rhuthro trwyddo fo
gormod. Dyma be mae Janice Jones yn dweud: “Mae iaith
y nofel hon yn llifo, a chyda'i holl haenau a'i holl ddarlleniadau posibl,
mae'n gyfrol fydd yn plesio darllenydd mewn modd personol ac unigryw”.
Ond doedd o ddim yn bosib
darllen trwy’r penwythnos. Aethom allan i’r meithrinfa yn Buckingham i brynu goeden fedwen arian. Roedd un yn
tyfu yn yr ardd gefn: wedi bod yna am flynyddoedd, ond llynedd, roedd yn amlwyg
ei bod wedi marw. Mae'r fedwen, ar wahan i fod yn dlws, yn ddefnyddiol iawn i adar gwyllt. Felly roedden ni eisiau un arall, a tra bod ni
yna, prynu shallots newydd, oherwydd bod y rhai a aeth i fewn yn y Hydref wedi
pydru gyda’r holl glaw, a dipyn o hadau. Rhyfedd fel ei bod bron yn amser
i wasgaru cenin, er bod cenin llynedd yn dal yn yr ardd. Ond dim llawer
ohonnyn nhw.
Un hoff ryseit ydi "Leek Corustade" yn yr hen lyfr Cranks. A dyna be wnes i ar ol dod yn ol o'r feithrinfa. Roedd hi bron yn dywyll erbyn i fi fynd allan i'r ardd i gasglu'r cenin. A dyma llun o'r "Croustade" wedi ei goginio. Dydy o ddim yn edrych rhy dda yn y llun, ond
mi roedd yn flasus!
2 Comments:
Welaist ti'r llythyr gan rywun yn Y Cymro yr wythnos yma (Chwef.22) yn dweud nad ydi o'n gwybod am neb sydd wedi llwyddo i orffen 'Y Storiwr'?!
Rhaid cyfadde' i mi fenthyg y llyfr o'r llyfrgell, a'i godi ddwywaith/dair, ond es i ddim yn bell iawn.. mi ddyliwn roi cynnig arall a dal ati fel gwnes di.
Helo Wilias
Dw ond wedi gweld hwn yn ddiweddar - a naddo, wnes i ddim gweld y llythyr. Ond diddorol, oherwydd dwi wedi rhoi y llyfr i lawr a dim wedi ei orffen eto - er i fi ddarllen cryn dipyn. Dwi'n siwr bod un o aelodau'r Clwb Darllen Cymraeg yn Llundain wedi dweud ei bod o wedi gorffen y llyfr. Ond dwi'n cytuno, er ei fod yn gyffrous mewn llefydd, dydi o ddim yn llyfr lle medra i ddim ei roi i lawr.
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home