Ailddysgu

Sunday, 17 February 2013

Haul, cae gwlyb a bod yn ôl yn yr ardd

Ro’n i’n falch gweld yr haul eto heddiw.  Ar ôl wythnosau o ddyddiau llwyd, eira, rhew a glaw, o’r diwedd roedd o’n teimlo fel Gwanwyn heddiw, ac er bod dipyn o waith gen i i’w gwneud, doedd o ddim yn bosib i fi beidio mynd allan am dro.  Tro yma, roeddwn i eisio mynd i lawr i’r cae yn ymyl yr afon.  Mae un cae, lle mae ŷd yn tyfu, yn denu sgwarnogod weithiau.  Dwi wedi cerdded heibio a gweld topiau du ei chlustiau wrth ben coesau’r  ŷd.  Ond dim arwydd o  ysgyfarnog heddiw.  Ond mi roedd arwyddion o’r glaw i gyd, gyda’r cae mor wlyb a’r dŵr yn eistedd arno fo. 




A dyma llun arall, y tro yma yn ymyl (ac yn) yr afon.

A mi lwyddais i gael hanner awr yn yr ardd.  Digon o amser i gasglu’r panas olaf y tymer,) a tri moron bach o'r ty gwydr) ag i ddechrau cynllunio be sydd  am fynd lle. 


Mae gwahanol gwlau uchel? (raised beds)? yn yr ardd llysiau a mae rhaid newid lle mae’r llysiau gwahannol yn mynd bob blwyddyn.  Mae’r cynllun wedi ei gwneud, rŵan, a’r gwaith nesaf ydi mynd trwy’r bocs hadau i weld be sy gen i, a be sydd angen prynu.  Dwi’n hwyr gwneyd hyn eleni.  Mae o’n dasg bleserus i’w gwneud pan mae’r tywydd yn wael, a’r hadau i gyd yn addewidion o bethau dda i ddod!

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home