Dwi newydd gorffen darllen “Y Groes Naidd“: llyfr dan ni'n darllen ar gyfer ein clwb darllen Llundain. Mae 'na ddau awdur: Lyn Jones a Mel Hopkins a dwi'n credu mae hwn ydy eu llyfr cyntaf. Beth bynnag mae nhw wewdi llwyddo i greu llyfr cyffrous, gyda'r stori yn symyd y n gyflym. A mae'r llyfr yma yn y genre ditectif (mi wnes i flogio am hwn dipyn bach yn ôl). Efalla bydd blog arall ar ôl i ni drafod y llyfr yn ein clwb. Dwi wedi darllen llyfr arall ditectif yn ddiweddar: pan roeddwn ym Mangor prynais “Lara“ gan y ddiweddar Eurug Wyn a ches fy siomi ar yr ochr gorau. Dwi ddim wedi dod ymlaen yn dda iawn efo llyfrau eraill Eurug Eyn fel “Blodau Tatws“, ond mwynhais hwn.
Neithiwr cynhaliwyd yr ail cyfarfod o'r cylch siqrad Cymraeg MK. Chwech ohonon ni y tro yma: dau siarqdwr rugl (neu bron yn rugl yn fy acos fi, efalla) a pedwar dysgwyr. Aeth yr awr a hanner heibio digon gyflym a dan ni am barhau i gyfarfod bob mis.
A mae o'n amser dda i ddarllen neu sgwrsio o flaen tan coed cynnes. Mae o'n rhewllyd yn fama fel y rhan fwyaf o'r wlad a mae nhw'n gaddo crin dipyn o eira erbyn fory.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home