Es i Chelsea gyda tair ffrind dydd Gwener a chawsom
amser gwyll. ER ei fod yn bwrw – yn galed – trwy’r dydd. Efallai
mai un fantais o’r glaw oedd bod llawer o bobl yn mynd i gysgodi, a r’oedd yn
haws gweld y gerddi. Mae o’n sioe brysur iawn bob tro, dwi’n meddwl. Dyma
rhai o’r gerddi gorau (yn fy marn i!):
Gardd Cymraeg! Un garreg. Un o’r gerddi
crefftwyr (artisan gardens) oedd hon.
Un arall bendigedig oedd Gardd M&M
A hefyd gardd Homebase
Erbyn dydd Sadwrn roedd hi’n braf a
heulog, felly penwythnos o weithio yn yr ardd – ar ôl yr holl ysbrydoli.
Treuliais cryn dipyn o amser yn tacluso ac yn chwynnu: yn enwedig i gael y
chwyn allan o’r brics wrth ymyl y tŷ. Mae’r ffa i gyd i fewn, rwan, a hefyd y
courgettes, a’r tomatos i gyd i fewn yn y system a phrynais eleni. A dyma
ychydig o luniau o’r ardd.
2 Comments:
Braf iawn Ann; byddwn innau'n hoffi mynd rywbryd hefyd. Oes yna ddiwrnod yn ystod y sioe pan mae'r pobl 'gyffredin' yn cael troedio oddi mewn i'r gerddi, yntau dim ond o'r cyrion gaiff bawb ond y selebs eu gweld?
Mae dy ardd dithau'n edrych yn dda hefyd, a dwi'n genfigenus iawn o'r ty gwydr!
Dwi ddim yn meddwl ei fod o'n bosib i'r pobl 'werin' mynd i fewn i'r gerddi: mae'n rhaid aros ty allan. Ond oherwydd y glaw drwm mi roedd dipyn yn haws gweld y gerddi! Ar ol gweithio ar ein gardd trwy'r penwythnos hir, roedd hi'n edrych reit dda. A ia, dyn ni'n ffodus iaen gyda'r ty gwydr enfawr Fictorianaidd.
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home