Mi es i ddarlith gan
Richard Reynolds ddoe a oedd wedi dod i’r Clwb Garddio yn y gwaith. Mae Richards wedi bod yn gwneud llawer o arddio gerila yn Llundain dros y blynyddoedd diwethaf .
Mae na
lyfr allan rwan - mewn sawl iaith - ond dim Cymraeg (prosiect i rywyn?). Efallai mi roi o ar fy restr Nadolig. Ond yn y cyfamser dwi wedi cael fy ysbrydoli i weud dipyn fach mwy o arddio gerila (os gai amser!). Siaradodd Richard am arddio yn ei filltir sgwar yn Llundain a roedd ganddo lawer o luniau i ddangos ac ysbrydoli ni. Un peth a wyddon i ddim amdano oedd y pobl sydd wedi bod yn
garddio mewn tyllau yn y lôn!
Ac yn ol yn fy ngardd gerila fi - ty allan i fy waliau....wel, mae’r coed ffrwythau wedi bod yn ardderchog eleni, gyda digonedd o eirin a’r gellyg newydd hefyd wedi ffrwytho. Hefyd, dydy’r wiwerod lleol ddim wedi darganfod y coed cnau eto, felly dyma’r cnwd eleni.
Braidd yn fach oherwydd dwi’n meddwl, roeddwn more brysur yn casglu’r ffrwythau, nes i ddim gasglu’r cnau am dipyn, ac o ganlyniad, rodden nhw wedi disgyn o’r coeden a rhai wedi cael eu fwyta. Ond mae nhw'n ardderchog wedi eu rostio.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home