Ailddysgu

Monday 3 March 2014

Gŵyl Ddewi Arall - rhan un




Penwythnos GWYCH yng Nghaernarfon yn ymuno a’r ŵyl.  Gymaint o bethau diddorol a mwy na digon o adloniant.  Ar ol clywed Georgia Ruth a Saron nos Wener (mi wnes i golli Kizzy Crawford yn anffodus), a’r ddau yn ardderchog - ond gwahanol iawn, dechrau bore Sadwrn, dydd Gŵwul Dewi, gyda orymdaith i’r castell.  



Fel dwi’n dallt, rhywbeth newydd ydy hwn. Swn i’n meddwl ei fydd yn tyfu, hefyd.  O’r safle lle bu yr orsef i’r dref ac i fewn i’r castell, lle roedd digon o adloniant am ddod - ond gan fy mod wedi prynu tocyn penwythno i’r Gŵyl Ddewi Arall, mi adawais y castell i fynd i glywed Angharad Price yn siarad am fywyd a theithiau cynnar T H Parry Williams.  





A mi r’oedd yn ardderchog - r’oedd hi’n dangos i ni sut roedd bywyd dyddiol y bardd yn yr Almaen (yn gwneud PhD) ac ym Mharis, wedyn, yn newid o ac yn ddylanwadu ar ei waith.  Mae hi’n ddarlithwr ardderchog - mi wnes i bron brynu’r llyfr - ond i mi gofio fy mod yn teithio ar y tren, a bydd rhaid bodyn ofalus am faint r’on i’n mynd yn ol gyda fi.

R’oedd disgwyddiadau yn y Clwb Canol Dre ymlaen trwy’r dydd, ond i gael hoe bach a dipyn o awyr iach (a glaw) - a mi roedd yn swnio’n ddiddorol - mi es ar daith cerdded gyda Rhys Mwyn yr archeolegydd, i fynny i Segontiwm.  


Dydi segontiwm ddim yn bell o gwbl o ble roeddwn yn byw - ond mae pethau wedi newid, gyda gwaith archeolegol newydd, cyn adeiladu ysgol newydd, a hefyd, mae’r amgueddfa (a oedd yn dda o’r blaen...) wedi ail agor fel mwy o ganolfan gymunedol sydd yn edrych yn wych (doedden ni yna ond am spel bach) ac yn sicr mi fyddaf yn mynd yn ol.  



A bob tro dach chi yn Segontiwm mae fantais y lle mor glir - medru gweld dros y Fenai ac ynys Mon, felly dafle delfrydol i weld y gelyn yn dwad ac i amddiffyn y Caer.  Ar yr amser, mi fyddai’r “dre“ i gyd o gwmpas Segontiwm - doedd dre Normanaid, i lawr wrth ymyl y Fenai dim yn bodoli pryd hynny, wrth gwrs.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home