Ailddysgu

Sunday 9 March 2014

Gŵyl Ddewi Arall - rhan 2

Anodd cofio heddiw gyda’r haul a ddaeth heddiw a ddoe, mor ddiflas r’oedd y tywydd, ar ddydd Sul, penwythnos diwethaf.
  


Beth bynnag, doedd y glaw ddim yn spoilio’r taith hanesyddol gyda Emrys Llewelyn Jones o gwmpas Caernarfon - yn cynnwys cerdded ar y waliau.    Dwi ddim wedi llwyddo i fynd ar un o deithiau Emrys  - “Tyrd am Dro Co’“ o’r blaen ond mae o’n werth mynd, yn sicr.  Ychydig cyn y taith, roedd hi’n stidio bwrw, ond erbyn i ni gychwyn o gwmpas yr hen dre ganoloesol (cyn hynny byddai’r “dre“ wedi bod o gwmpas y Caer Rufeinig, siwr o fod).  Mae’r hanes, a’r hen adeiladau yn ddiddorol a dim ond gobeithio bydd modd i wneud dipyn o’r  gwaith trwsio sydd angen ar y rhai sydd wedi dirywio.

Y noson gynt, roeddwn yn Llofft Gwesty’r Castell (bron gyferbyn i’r lle roedd ein siop teuluol, erstalwm , ond stori arall ydy honna), yn mwynhau noson “Pethe Bychain“ gyda grwp gwerin - Triawd - a’r beirdd Ifor ap Glyn, Karen Owen, Arwel Pod Roberts a Nia Môn.

  


R’oedd yn noson wych.  R’oedd yr holl digywddiadau yn ofnadwy o dda, i ddweud y gwir – (dwi ddim wedi sôn am y Trevor Dines yn siarad a flodau a “Plantlife“, a Mike Parker yn sôn am agweddau tuag at y Gymraeg, ac am luniau Pierino Algieri).  Rhaglen ardderchog - a mi es adra gyda lwyth o lyfrau, fel arfer.
.



0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home