Ailddysgu

Sunday 15 June 2014

Cwrs undydd, ffrwythau'r ardd - a mynd am daith

Mi ges i ddiwrnod hyfryd ddoe.  I ffwrdd i’r Ganolfan Cymry Llundain am gwrs undydd Cymraeg.  Mae Gwen yn dysgu lefel pedwar, a dwi’n ddiolchgar iawn: cymysgedd da o siarad, trafod a gramadeg.  Gyda Gwen, mae gramadeg hyd yn oed bron yn hwyl - ac yn sicr, mae hi’n werth da ati - felly diolch Gwen!

A wedyn yn ol ir tŷ, a trio cael dipyn o drefn ar yr ardd am ryw awren.  Mae’r rhan fwyaf o’r mefus yn barod rwan - felly, be well na ddiwrnod o Gymraeg a risoto ffa llydan (fy ngŵr wnaeth o) a mefys i ginio?


Mae safon y mefus yn amrywiol eleni - a’r malwod wedi cael hwyl - ond mae’r rhan fwyaf yn flasus ofnadwy:

A heddiw dwi’n myd i Gaernarfon, lle dwi’n cyfarfod fy ffrind Gareth, a bydd y ddau ohonon ni yn myn ymlaen i Nant Gwrtheyrn i wneud wrs gloÿwi iaith, yn dechrau bore Mawrth.  Dwi’n edrych ymlaen gymaint  - dwi fel plentyn bach.  

2 Comments:

At 15 June 2014 at 14:12 , Blogger Wilias said...

Ffa o'r ardd hefyd? Rwan mae fy rhai i'n blodeuo..

 
At 17 June 2014 at 03:37 , Blogger Ann Jones said...

Ydynt, mae'r ffa o'r ardd, wedi cael eu ddechrau yn yr Hydfref, felly yn gynnar eleni

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home