Ailddysgu

Sunday, 22 June 2014

Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn: natur

Mi ges i amser mor dda yn y Nant fel dwi ddim yn gwybod lle i ddechrau ar y post yma!  Efalla DIM gyda'r cwrs (a oedd yn ardderchog!) ond gyda'r natur.  R'on yn gwybod ei fod yn safle gwych - ar ol cerdded ar yr arfordir yna yn ol ym mis Ionawr - ond wyddon i ddim ei fod o mor, mor ardderchog.  Felly, efallai arwydd da oedd gweld y llwynog wrth i ni gyrraedd nos Sul diwethaf.  Yn fama, yn Milton Keynes, mae'r llwynogod i'w gweld yn y ddinas yn arferol, yn enwedig gyda nos.  Mae boblogaidd mawr o gwningod, a fel mewn dinasoedd eraill, bydd y llwynogod yn chwilio am fwyd ymysg sbwriel.  A dyna be 'roedd y llwynog yma yn gwneud.  Ond rhan o'i gynffon a'i gefn sydd i weld.


A dyma fo ar ol cael tamaid o fwyd:


Roedd llawer, llawer o adar o gwmpas hefyd, yn cynnwys: brain goes goch; cigfrain; y ddringwr fach; llwydfron, yr ehedydd; y siglen fraith; gwennoliaid a gwennoliaid y bondo (ac adar cyffredin eraill).  Mae rhai o'r rhain yn gyffredin yn lleol, hefyd wrth gwrs, ond dim, wrth gwrs, y frain goes goch.  Roedd rhaid cerdded i fynny'r bryn i drio cael lluniau. a mi roedd o'n oer a gwyntog.  Dydy'r lluniau ddim yn dda, ond roedd yn fraint cael gweld yr adar yma.


Felly roeddwn yn falch fy mod i wedi mynd gyda'r sbinddrych dda, a'r camera 'gorau'.  A dyma ddau lun arall, o'r llwydfron (rhyfedd te, gan gwyn ydy'r bron?) a'r gwennol:





0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home