Ailddysgu

Friday 9 January 2015

Ysgol Galan rhan 1


Wel mi ddois yn ôl ddoe o Fangor ar ol treulio 3 diwrnod yn yr Ysgol Galan.  Dyma’r trydydd tro i fi fynd - a mi oedd yn ardderchog, fel arfer. Dosbarth o 15, reit fawr, ond ein tiwtor Eleri yn wych: hi oedd y tiwtor pan es i o’r blaen, a dwi’n hoffi dysgu gyda hi gymaint.   Felly, pa fath o bethau wnaethon ni?  Dechrau gyda gwylio rhan o raglen Heno a oedd yn edrych yn ol dros 2014 ac ymlaen i 2015 a siarad â’n gilydd, am ei disgwyliadau ni.  Mae Eleri yn fywiog, yn gwneud amrywiaeth o bethau ac yn llwyddo i gael ddigon o siarad gwrando a gwylio ymysg y dosbarth.

Roedd rhywfaint o drafod erthygl yn sôn am lwybr weddol newydd o Ryd-Ddu i Feddgelert, hefyd: Lôn Gwyrfai.  Rhed y lwybr yma o Ryd Ddy at Lyn y Gadair - tua 4.5 milltir un ffordd, ond mae o’n bosib gwneud taith llai, ac wrth gwrs bydd o'n bosib greu cylchdaith trwy ddefnyddio’r gwasanaeth bws, neu Reilffordd Eryri i ddod â chi yn ôl i’r dechrau. Roedd Angharad Tomos wedi sgwenu erthygl am y llwybr yn yr Herald Gymraeg (yn y Daily Post) yn ol ym mis Mawrth llynedd - a mae hi’n sôn am yr amrywiaeth fawr o fywyd gwyllt yma, yn cynnwys dyfrgi, torgoch yr Artig a phibydd y dorlan. Mae o’n sownio’n wych ac yn hawdd gwneud os dach chi wedi dod ar y trên, fel dwi’n arfer gwneud.  Gwell mynd ar ddyd braf, swn i’n dweud.

Ac yn wir, roedd dydd cyntaf y cwrs yn ddigon heulog. Mi es o’r brifysgol i lawr tuag at lan Menai yn ystod amser cinio, (dyna lle tynnais y llun o'r cerflun coed).  Braf gweld y Fenai, a'r eithin yn blodeuo.



Ac ar ddiwedd y prynhawn, mi es i’r Roman Camp lleoliad bron yng nghanol Bangor.  Dwi ddim wedi bod yna o’r blaen, ond hyd yn oed yn y gaeaf, a’r llwybrau yn wlyb ofnadwy, roedd yr olygfa yn fendigedig, a chlywed swn y gylfinir a phioden y môr yn wych.




0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home