Ailddysgu

Monday 12 January 2015

Yr ysgol galan rhan 2: tywydd garw a hwyl fawr

Parhaodd fy ymweliad i Gaernarfon a Fangor i fod yn wych.  Dwi ddim yn aros ym Mangor pan dwi’n mynd: dwi’n adnabod Caernarfon llawer gwell, a mae o’n hawdd iawn os dwi’n aros yn stryd yr Eglwys i bicio I fewn I’r Black Boy am bryd o fwyd neu wydriad o win…neu i un o’r tai bwyta eraill.  Ond cyn gwneud hynny roeddwn i isio ymweld a Palas Print.  ‘Roedd tocyn llyfrau yn llosgi twll yn fy mhoded.  A dyna be wnes i.  Mi faswn wedi medru prynu GYMAINT o lyfrau – mae sawl llyfr ar fy rhestr  - felly sut i ddewis?  Yn y diwedd, prynais nofel newydd Manon Steffan Ros, Llanw, a llyfr diwethaf Alun Cobb, “Sais”:  
doedd llyfr Russell Jones a Jen “O’r egin i’r Gegin” ddim ar fy rhestr o gwbl – a mae gen i lwyth o lyfrau garddio a choginio, ond rywsut mi wnaeth o fy hudo….. Dwi AM brynu hunangofiant John Davies, “Fy Hanes i”, ond unwaith r’oeddwn wedi prynu Dan ddylanwad gan John Alun Griffiths doedd dim digon lle yn fy mag, y tro yma (ar ôl prynu un neu ddau (neu fwy….)  lyfr ail-law hefyd yn siop elusen yr ambiwlans awyr).

Ond be am y cwrs? Ar yr ail fore, cawsom Ifor ap Glyn yn trafod ei farddoniaeth gyda ni.  Fel mae hi’n digwydd, yn ystod yr Ysgol Galan pedair mlynedd yn ôl mi ges i fy gyflwyno i farddoniaeth Ifor ap Glyn.  Clywais oddiwrth un o’r myfyrwyr eraill bod Oxfam yn Bangor yn lle da am lyfrau Cymraeg ac yn 2011, prynais lwyth o lyfrau yn cynnwys copi o “Golchi Llestri Mewn Bar Mitzvah”.  Wyddwn i ddim am yr awdur.  (Er fy mod wedi gweld Ifor yn clyflwyno rhaglenni ar y teledu, wyddwn i ddim pryd hynny ei fod hefyd yn sgwennu barddoniaeth).  Ond mwynhais rhai o’r cerddi yn fawr iawn a dwi wedi mynd ymlaen i brynu lyfr arall (heb fod yn ail-law!).  Beth bynnag, bore Mercher diwethaf gnwaethon ni drafod y cerdd “Hwiangerdd”, sydd yn drist, a wedyn cerdd mwy ysgafn a chafodd ei gyfansoddi ar gyfer cystadleuaeth, gan sôn am y rheolau o gynghaneddu yn yr ail gerdd.  Diddorol dros ben.

A wedi prynu Dan ddylanwad, dwi wedi ei orffen.  Llyfr ardderchog.  Dwi ddim yn meddwl fy mod i wedi darllen llyfrau John Alun Griffiths o’r blaen, felly mae ‘na ddau arall yn y gyfrol yn aros amdanaf.  Gwych!

A mi roedd yn dda cael llyfr da gyda fi, oherwydd erbyn gyda’r nos mi roedd y tywydd yn ofnadwy.  Dyma be oedd i'w gweld o'r ffenest yn y Gwely a Brecwast - dydy'r llun ddim yn dda - ond dach chi'n cael y syniad!



A felly be’ arall oedd i’w gwneud on swatio yn y Black Boy i gael rywbeth i fwyta ac yfed o flaen y tan gyda’r llyfr?


2 Comments:

At 16 January 2015 at 14:45 , Blogger Wilias said...

Ew, ia, lle da di'r Blac, ond fues i erioed yno pan oedd digon o le i eistedd efo llyfr. Mae o ar y rhestr bwcad!

 
At 9 February 2015 at 00:10 , Blogger Ann Jones said...

Ond wedi gweld y sylw. Ia, mae o'n le dda, ac yn weddol wag pan oeddwn i yna. Efallai am ei fod yn ddechrau mis Ionawr...stori gwahanol ym yr ha

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home