Dwi newydd orffen ddarllen dau lyfr gwahanol iawn: un yn y Gymraeg a’r llall yn Saesneg Ond beth sy’n gyffredin ydy fy mod i wedi darllen y ddau oherwydd eu fod yn ddewis ar gyfer y clybiau ddarllen.
Dwi’n ddiolchgar i’r clwb darllen Llundain am ddewis llyfr (Mihagel Morgan, “Dan Gadarn Goncrit“) na faswn i wedi dewis fy hun. er bod fy ffrind Gareth wastad wedi canmol Mihangel Morgan, roedd fy mhrofiad i ddim i gyd yn dda. Fel engraifft, doeddwn i ddim wedi dod ymlaen yn dda gyda casgliad o storiau fer, ag er fy mod wedi mwynhau Pantglas, roedd y tafodiaeth braidd yn anodd i fi. Felly dwi ddim yn meddwl swn i wedi chwilio am lyfr arall ganddo fo. A felly swn i wedi colli’r mwynhad mawr o ddarllen y llyfr yma, sydd yn dipyn o ’glasur’ erbyn rŵan. Mwynhais yr amrywiaeth o gymeriadau: llawer ohonyn nhw’n lliwgar - ond yn gredadwy. Mae’r sgwennu (wrth gwrs) yn ardderchog, ac yn al yn ddoniol, fel yn y pennod pan mae’r prif cymeriad yn cael lifft gyda gyrrwr lorïau, Hedd Wynne, sydd yn siarad yn dibaid: “Oedd ots gan Maldwyn tase fe’n rhoi tâp Plethyn i chwarae? Nac oedd. Waeth roedd ei ail wraig yn eithaf hoff o’r grŵp ac roedd e wedi siarad digon, on’d doedd? (Oedd)“ Felly mae o’n bosib mwynhau’r gwahanol benodau fel botreuadau bach difyr bron ar wahan. Ond wrth gwrs mae na gysylltiad rhwng y penodau ac erbyn y diwedd, mae’r cysylltiadau rhwng y cymeriadau, a’r sefyllfeoedd yn dod yn glir. A dirgelwch ydy’r nofel, yn y bôn. Yn wir, doeddwn i ddim eisiau gorffen y llyfr yma.
Mae’r llyfr arall dwi newydd orffen: Sophia, Princess, Suffragette, Revolutionary, yn gwbl gwahanol. Llyfr gan Anita Anand yn cynnwys y stori rhyfeddol o Sophia Duleep Singh, merch yr etifeddwr i ddeyrnas y Sikkhs, yn India. Cymerodd y Brydeinwyr y teyrnas, a bu raid i’r etifeddwr ifanc, (un ar ddeg) gadael ei deyrnas ac yn y ddiwedd daeth i Brydain, i Norfolk, lle seflydwyd stad dros ben llestri. Felly cafodd Sophia, ei ferch, y tywysoges, ei fagu fel Saesnes, gyda’r brenhines Fictoria yn fam fedydd iddi hi. Dyma, felly, stori am teulu Indiaid yn byw bywyd moethus yn Lloegr yn y ddeunawfed ganrif - yn hela gyda’r teulu brenhinol; stori am gyfoeth, hiliaeth, tlodi, cenedlaethorldeb a deffroad gwleidyddol. A heb y grwp darllen faswn i ddim wedi dod ar draws y llyfr yma o gwbl.
Dan ni’n cael gwybodaeth yma am India yn yr oes Fictorianedd ac yn yr hanner gyntaf o’r ddeunawfed ganrif. Roedd tad Sophia yn arwr mawr yn India, a gyda gymaint o bobl yn dechrau brwydro am annibynniaeth, roedd y llywodraeth yn awyddus i gadw Sophia, a’i chwiorydd rhag mynd i India. Ond, er hynny, aeth Sophia i India, a chafodd y wlad, y tlodi, a’r ffordd roedd ei theulu Indiaidd wedi cael eu thrin gan y Brydeinwyr effaith mawr arni hi. Daeth yn ôl gyda diddordeb newydd yng glweidyddiaeth ac ar ol gweithio ar ran yr Indiaid a weithiodd ar y llongau masnachwyr a ddaeth o India a oedd yn derbyn triniaeth creulon iawn ar y llongau ac yn Ninasoedd Brudeinig. A chwaraeodd ran bwysig ym mudiad y “Suffragettes, hefyd“. Werth darllen, yn bendant.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home