Ailddysgu

Thursday 26 March 2015

Yn ol yn yr ardd



Gyda'r haul yn gwenu (wel, ambell waith) ddoe, a fina ddim yn y gwaith, roedd cyfle i wneud dipyn y yr ardd ac i dwtio'r tŷ gwydr ddoe.  Falle eich bod wedi sylwi nad ydwi wedi sôn llawer am yr ardd yn y blog yn ddiweddar - a hynny am fy mod ddim wedi gwneud llawer o gwbl dros y gaeaf.  Ond rŵan, mae rhan o'r tŷ gwydr yn dwt gyda'r gwlau yn barod am y tymor newydd.




Dwi wedi clirio tipyn ar yr hen pridd, ychwanegu compost newydd a hau letys, radish, moron, rocet a persil - a  wedi torri'r letys sydd wedi bod yna dros y gaeaf, fel ei bod yn tyfu dail newydd.



Felly mae pethau yn dechrau dwad, yn araf bach. 

Ac yn yr ardd, mae'r nionod a'r ffa llydan a aeth i fewn yn yr hydref hwyr yn dod ymlaen yn dda, a dwi wedi ychwanegu ychydig o blanhigion pŷs, diolch i'r stondin ar y farchnad, a dipyn o foron -  a sialóts.



A weithiau mae'r tywydd yn eich helpu - heddiw mae'n bwrw - a bydd hyn yn gwneud lles i'r planhigion ar ol wythnos eitha sych.

Yn ol yn y tŷ, dwi'n falch iawn gweld bod Porthpennwaig yn cael ei ailddangos ar S4C.  Mwynhais y gyfres yma y tro gyntaf, a dwi'n mwynhau o eto - ac yn y cyfamser wedi bod yn cerdded ar hyd yr arfordir hyfryd o gwmpas Aberdaron.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home