Paratoi am drip bach
Mae'n amser y taith cerdded eto. Y tro yma bydd ein grwp bach yn cerdded ymlaen ar y llwybr arfordirol Sir Benfro o Solfa, lle cyrrhaeddon ni llynedd. Ond, eleni. mi fyddaf i ddim yn cerdded. Rhywsut, dwi wedi newidio cyhyr yn fy nghlun, ac o ganlyniad, mae'r pelfis yn dynn iawn, a mae cerdded yn brifo - ac yn gwneud yr holl beth yn waeth.
Gan fy mod mor hoff o gerdded, mae hyn yn drueni, ond, mewn gobaith, talais am y tren ac am y gwely a brecwast, yn meddwl baswn wedi gwella erbyn hyn. Ond na, dydy o ddim. Mae'r meddyg esgyrn (y gair am osteophath yn ol Geiriadur Bangor yn meddwl bydd o yn medru helpu ond ar y funud, bydd na ddim cerdded ar yr arfordir. Ond ar ol meddwl am y peth, dwi am fynd beth bynnag, ac yn lle cerdded, mi wnai botsian o gwmpas gyda'r camera a'r spindrych, a darllen. Dan ni'n aros yn Nhy Ddewi i ddechrau, felly dwi'n gobeithio mynd i ynys Dewi i wylio'r adar mor. A mae hunangofiant John Davies yn mynd hefo fi!
2 Comments:
Mwynha'r gwylio adar a'r darllen, a brysia wella!
Diolch! Dwi'n meddwl bod y meddyg esgyrn wedi helpu yn barod!
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home