Ailddysgu

Wednesday, 30 December 2015

Y ci

Yn ôl ym mis Ebrill collason ein ci, Tyson.  Mi roedd o wedi bod yn ffrind da i’r teulu i gyd, ers iddo symyd yma i fyw yn ol yn 2001, pan roedd o ryw ddeunaw fis.  Mi wnes i feddwl am sgwennu post amdano fo, ond do’n i ddim yn medru, ar y pryd.  Yn teimlo rhy drist ac emosiynol.  



Wrth gwrs, doedd  o ddim yn angel: yn enwedig gan mai ci hela roedd o; ond ar ol dipyn o hyfforddiant, roedd yn gyfaill ardderchog ar daith cerdded.  Un peth oedd o’n gwneud oedd sicrhau bod fy ngŵr yn cerdded digon: roedd Tyse (na,  dim ni enwodd o) angen ryw ddwy awr o gerdded bob dydd.  Hyd yn oed pan roedd yn hen (rhy hen i hela’r wiwerod yn y fynwent) roedd o’n hapus iawn i gerdded am amser hir, ac yn fwy gyfforddus oherwydd bod y  cryd cymalau ddim mor ddrwg pan roedd yn cerdded.

Ar ôl dipyn, roedd o’n amlwg bod angen ci arall i fynd a fy ngwr am dro, iddo gael dipyn o ymarfer corff.  Felly aethon i chwilio am gi newydd, a penderfynu cynnig cartref newydd i gi roedd angen cartref, yn nytrach na prynu ci bach.  A dyma sut ddaeth Teo i fyw gyda ni.  R’oedd o am gael ei ladd yn Sbaen.  Dan ni ddim yn gwybod am ei gefndir: mae’n amlwg ei fod wedi byw mewn tŷ, rwy bryd, ond dim wedi cael hyfforddiant o gwbl o be dan ni’n gweld.  Mae lawer o gi defaid ynddo fo, a falle dipyn o ddaeargi - pwy a wyr.  Bydd o angen llawer o hyfforddiant, ond mae o’n glyfar ac yn dysgu’n gyflym.

A dyma'r ci newydd: Teo ydy ei enw fo (a mi ddaeth gyda'r enw).


Mae’r braf iawn cael ci o gwmpas y lle eto.  Efalla bod yr wythnos cyn Dolig ddim yr amser gorau - ond roedd y pobol oedd yn edrych ar ei ôl o, yn awyddus i gael gartref newydd iddo fo - a gwneud le i gi arall oedd angen cartref dros dro.

Ond dwi wedi cael ryw fath o annwyd drwm gyda haint a peswch drwg dros y Nadolig, a dim wedi bod mewn stâd i wneud lawer o gwbl.  Felly ond dros ddoe a heddiw dwi wedi bod allan efo fo. Gobeithio cai cyfle i bostio mwy, unwaith dwi'n teimlo'n well...

3 Comments:

At 31 December 2015 at 02:22 , Blogger Wilias said...

Brysia wella a blwyddyn newydd dda. Diolch am ein diddanu trwy 2015.

 
At 1 January 2016 at 13:11 , Blogger Ann Jones said...

Diolch - ac i chdi hefyd: ro'n yn falch gweld dy flog heddiw. Gobeithio am tywydd garddio dda i ni i gyd yn 2016!

 
At 21 January 2020 at 08:23 , Blogger Brenda greg said...

Rydw i wedi fy synnu wrth i mi rannu fy mhrofiad yma i adael i'r byd i gyd wybod am ddyn a achubodd fy mherthynas a gelwir y dyn mawr hwn yn Dr. IZOYA. Yn wir mae wedi profi i mi, trwy ddod â fy nghyn gariad yn ôl a adawodd fi ac addo na fyddaf byth yn dychwelyd yn ôl ataf eto dim ond oherwydd iddo ddechrau gwrando ar glecs ohonof i ddim yn ffyddlon. Gyda hyn, rwyf wedi dod i sylweddoli y bydd rhoi manylion Dr. IZOYA i'r byd yn gwneud llawer o les i'r rhai sydd wedi torri cartrefi neu berthnasoedd iddo atgyweirio'r berthynas doredig honno neu briodas eich un chi. Gallwch ei gyrraedd trwy ei gyfeiriad e-bost: drizayaomosolution@gmail.com. Cysylltwch ag ef a gweld sut y bydd eich problem yn cael ei datrys o fewn 24 awr. Mae hefyd yn arbenigo yn y materion canlynol ...

(1) Rydych chi eisiau'ch cyn-gefn ..
(2) Rydych chi am i ddynion / menywod eich dilyn chi.
(3) Rydych chi eisiau plentyn ..
(4) Mae angen help ysbrydol arnoch chi.
(5) Stopiwch yr ysgariad ..

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home