Dwi wedi parhau gyda’r arfer o fynd
am drô yn y bore ar ddyddiau pan dwi ddim yn gweithio. Y drefn ydy
cerdded i lawr y stryd at y comin, wedyn ar draws y comin, i lawr stryd bach
tuag at y bont a wedyn croesi i barc bach sydd yn arwain at yr hen fynwent a
wedyn yn ol ar hyd lan afon arall, parc bach arall a.y.y.b.
Ar ol gweld tylluan glustiog ar y
comin, ryw fis yn ol, dwi wedi bod yn gobeithio gweld nhw eto a cael tynnu
lluniau. Ond erbyn hyn r’on wedi penderfynu bod nhw wedi mynd – tan bore
LLun, pan welais i dylluan glustiog yn hela ar y comin, ond tro yma, gweld
par! Son am gyffro! Beth bynnag, wnes i ddim lwyddo i gael llun –
‘roedd yn gynnar yn y bore, ac er fy mod yn medru gweld yr adar yn dda
trwy’r spyndrych, ac yn medru tynnu llun gyda’r iPhone – roedd angen lens
teleffoto i gymryd llun, a gyda hwnnw, roedd y llun yn dywyll iawn – fel
gwelwch chi.
Ers hynny dwi ddim wedi gweld y
tylluannod, ond dwi’n meddwl ein bod ni ddigon ffodus gyda’r adar sydd o
gwmpas. Mae’r cudyll coch wedi bod yn hela bron bob dydd dwi wedi bod ar
y comin; hefo hon hefyd, dydy o ddim yn hawdd i fi cael llun da, ond dyma hi yn
hedfan:
Mae’r bras y cyrs i’w gweld ar y
comin hefyd
a mae’r creÿr glas i’w gweld yn aml wrth ac yn yr afon. Does
dim ond rhaid mynd ryw filltir a hanner i lawr y lôn i gyrraedd cae lle mae
sgwarnogod i’w gweld eithaf aml ac yn yr hen fynwent mae digon o loches,
a byddaf yn gweld drwy bach, yn aml, yn ogystal a cnocell coed (weithiau),
delor y cnau a hefyd dringwr bach (weithiau). Heddiw roedd un
wiwer yn brysu yn casglu brigau ar gyfer ei nyth, a’r fronfraith yn brysur yn
bwyta’r aeron o gwmpas. Yn sicr mae digon o aeron eleni, a hyd at hyn dan
ni ddim wedi gweld adar yn yr ardd.
Ond heddiw, gyda’r barrug gyntaf, a’r
tywydd oer, mi ddaethant yn ol I fwydo ar yr hadau yn yr ardd.
Dwi’n
teimlo’n eitha ffodus i gael gweld yr holl fywyd gwyllt heb mynd rhy bell o
gartref.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home