Ailddysgu

Monday 11 January 2016

Jin a blodau

Wel, r’oedd y jim cwrens coch yn ardderchog - a’r rhan fwyaf wedi mynd i bobl eraill fel anrhegion dros Nadolig; ond mae ’na ddigon ar ôl i gael un bach o bryd 
i’w gilydd, a mi ges i jin eirin crogi fel anrheg - botel fawr, a mae hwnna’n hyfryd hefyd.


Mae rhai o’r bylbiau wedi gwneud yn dda iawn.  Rhois amaryllis i ffrind (dach chi’n gweld bod ’na thema o anrhegion ’cartref’: pethau r’on wedi gwneud neu tyfu, eleni) a mi ddaeth ymlaen yn dda iawn.  Does dim llun ohono fo i ddangos ond dyma llun o un wnes i gadw - sydd ddim wedi blodeuo eto.



Mae’r “Erlicheer“, sydd dipyn yn tebyg i “Paperwhite“ yn gwneud yn dda hefyd.  Mae dau yn llawn blodau, ac un i ddod allan.


Felly, er gwaethaf y tywydd a’r gwlybaniaeth tŷ allan, o leiau mae blodau ac oglau da yn y tŷ.


0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home