Ar ôl yr holl law, gyda tymereddau
isel, mae hi wedi bod yn oer ond yn heulog. Dydy hi ddim wedi bod yn
bosib cerdded unman ond ar y comin, ond yn yr haul, a’r golau clir, mae hynny
wedi bod yn bleser. A gyda ci newydd, ifanc, sydd angen llawer o ymarfer, dan
ni’m treulio crin dipyn o amser yna.
Ddoe, a heddiw, roedd y tylluan
glustiog yn hela. Doeddwn i ddim yn medru cael llun ddoe, ond heddiw,
r’odd yn bosib cael llun ohono fo (neu ohoni hi) ar goeden. Na, dydy o
ddim yn lun dda, o gwbl. Doedd dim digon o amser gen i ’pnawn ma i
dreulio’r amser r’oedd angen, ond yn sicr dwi am trio eto.
Dwi’n teimlo mor lwcus cael gweld
adar fel hwn, neu hon, yn hela yn lleol. Dydy’r comin ddim mwy na bum
munud o’r tŷ. Mae na ddigon o bobl yn cerdded yna, a digon o gŵn hefyd,
ond dydy’r tylluanod ddim yn cymryd llawer o sylw pan mae nhw’n hela, a dwi’n
siŵr bod na gyfnodau tawel hefyd (heblaw am y brain sydd yn eu herlid trwy’r
amser. Mae’r tylluanod, fel y cudyll coch, yn hela y llygond bengron y
gwair sydd yn byw yn y gwair hir. Ond dwi ddim wedi gweld y cudyll coch
yn ddiweddar. Gobeithio wir ei fod o wedi goroesi’r gaeaf.
Tŷ hwnt i’r comin, mae caeau sydd
ddim yn bell o’r afon. Ac yn un ohonyn nhw, mae ŷd yn tyfu’n aml.
Yn y cae hwnnw dwi wedi gweld sgwarnogau yn y gaeaf neu yn y gwanwyn
gynnar. Ac ers hynny, dwi’n chwilio am y clustiau du, gyda’r spienddrych.
Ond hyd at hyn, eleni, dim byd.
Mae
’na ddigon o adar o gwmpas yn y gaeaf yn cynnwys corhedydd y waun. Am flynyddoedd, nes i ddim sylwi eu bod nhw
yma yn y gaeaf. R’on i wedi hen arfer
gweld nhw ar dir uchel yn yr haf ac yn y gwanwyn, ond wedyn un gaeaf, sylwais
fy mod yn gweld adar a oedd yn debyg iawn I gorhedydd y waun. Ac ar ol dipyn o ymchwilio, darganfod bod yr adar
yma, fel lawer o adar eraill (e.e. y gylfinir a’r cornchwiglen) yn symud o’r
ucheldiroedd yn y gaeaf.
1 Comments:
Welis i dylluan glustiog ar y Crawcwellt, Trawsfynydd ganol yr wythnos, ond maen nhw'n nerfus iawn o bobl yno. Mi hedfanodd yn bell iawn, yn gyflym iawn!
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home