Dwi wedi dod ar draws sawl annifail yn cuddiad yn ddiweddar. Yn gyntaf, y llyffantod yn y pwll yn y ardd. Mae na lechen wrth ochr y pwll - ac yn cuddiad o dan y lechen, ryw 6 llyffant (rhai wedi dengyd erbyn cymryd y llun!). Da gwybod bod bywyd yn y pwll yn iach.
A dim yn bell o’r gwaith, mae rhai creaduriaid yn cael eu cyfrif wrth rhoi darn o haearn rhychiog i lawr a gweld be sy’n cuddio o dan y haearn. Tynnais un darn o heart rhychiog i weld neidr gwair
Ac o dan un arall, llygoden bengron goch (dwi’n meddwl!: mae Llyfr Natur Iolo yn dweud ei fod yn hawdd gwahaniaethu rhwng hon (bank vole, yn Saesneg) a llygoden bengron y gwair (short tailed vole) o achos y ffwr cochfrown a’r gynffon weddol hir) ac yn bendant, roedd ffwr y llygoden yn gochfrown a’r cynffon yn weddol hir...(er ei fod yn anodd gweld maint y cynffon yn y llun).
Mae ’na greadur arall yn cuddio yn yr ardd, yn y bin compost! Weithiau pan dwi’n llenwi’r bin mae llygoden bach yn rhedeg i ffwrdd - o dan y compost. Dwi’n meddwl mai llygoden y coed ydy hi, ond hyd at hyn, dydy hi ddim wedi aros digon hir i fi dynnu llun.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home