Ailddysgu

Wednesday 20 April 2016

Diwrnod braf yn yr ardd

Mae o wedi bod yn ddiwrnod ardderchog, heddiw, a mi r'on yn ol ar y beic yn mynd i'r gwaith.  Dyma coeden ceirios ar y ffordd i'r gwaith:


A'r cenin pedr hwyr o flan goedwig fach, hen, dwi'n mind heibio:


Ond falla'r rean gore o'r dydd oedd y prynhawn pryd r'on i'n ol gartref (dwi ond yn gweithio hanner dydd ar ddydd Fercher) ac yn yr ardd.  Gymaint i'w gwneud yn yr ardd, ond penderfynnais gweithio ar wely bach: tynnu rhywfaint o chwyn, rhoi compost arno fo a rwan mae hadau betys a spigoglys wedi mynd i fewn.  Gwrando ar hen bodlediad o 'Galwad Cynnar' tra'n gweithio.  Yn y ty gwydr, rhoi fwy o letys i few.  A r'on i heb sylwi bod blodau'r coed gellyg allan, yn edrych mor hardd, hyd yn oed gyda'r golau yn mynd, 8 o'r gloch gyda'r nos:


Ond cyn iddi hi nosi, a cyn cinio, es am dro bach ar y comin, ac ar ol ddiwrnod mor braf, r'oedd y golau yn anhygoel (ond dydy hyn ddim yn dangos rywsut yn y llun):


Ond dim son o'r dylluan glustiog.  Dwi'n edrych bob tro, rhag ofn ei weld.  Mi ges i luniau dda ohoni hi bore Sul:




Ac efallai, erbyn hyn, mae hi wedi hedfan yn ol i Scandinafia.

2 Comments:

At 21 April 2016 at 12:26 , Blogger Wilias said...

waw, does dim un blodyn ar y gellyg yma!
Lluniau gwych o'r dylluan.

 
At 2 May 2016 at 12:43 , Blogger Ann Jones said...

Cofia bod y goeden yn erbyn y wal a felly yn blodeuo yn gynt. Gobeithio dy fod wedi medru achub y goeden o'r goch y berllan! Er, problem hardd: dan ni byth yn gweld yr adar yea yn yr ardd hon - a dim yn aml yn yr ardal chwaith!

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home