Ailddysgu

Sunday 26 November 2017

Penwythnos brysur

Dwi'n siwr mai fel hyn bydd hi, i rai raddau, rhwng rwan a 'Dolig.  Ond fy mai i, yn unig, ydy gwneud y peth yn waeth trwy penderfynny gwneud jam - wel, jeli, i ddefnyddio'r cwrans duon yn y rhewgell a'r cwrans coch  - mae rhai ohonynt wedi bod yna am dair flwyddyn dwi'n meddwl.

A doeddwn i ddim yn disgwyl gorfod mynd a'r ci i'r filfeddyg prynhawn Gwener, oherwydd ei fod wedi rhywgo un o'i grafangau ac yn gwaedu - ond yn ffodus, roedd yn medru cael triniaeth heb gorfod aros rhy hir  o gwbl.  Rhedais allan o amser gyda'r jeli ar ol gwneud rywfaint o jeli cwrans coch - a rhoi'r cymysgedd o'r cwrans duon a siwgwr a.y.y.b. yn yr oergell yn barod at heddiw.  Ddoe, treuliais y ddiwrnod yn Llundain.  Ein tiwtor y tro yma oedd Sian Northey, a fel arfer, cawsom diwrnod gwych, gyda chwech ohonon ni yn y ddosbarth, felly digon o amwer i drafod, a trio gweithio ar tasgau fel cyfiethu sydd wastad yn creu sgwrs diddorol.

A gan fy mod yn Llundain, es ymlaen i dreulio'r noswaith gyada ffrind dwi ddim yn gweld digon aml.    Paned o de mewn 'patisserie' a wedyn i'r South Bank ar y bws i gadw allan o'r oerfel - gan nad dwi'n medru cerdded gormod.......a cael diod bach o win tra'n clywed cor gweiddi!  Erioed wedi clywed y rhain o'r blaen: edrych fel  cor meibion, ond gweiddi yn hytrach na chanu.  Dyma'r fath o beth - diddorol ond dwi'm yn siwr os faswn yn talu!  A wedyn yn ol ar y tren ar ol cael pryd o fwyd Twrceaidd, gwych.

Felly yn ol  i'r jeli heddiw, unwaith i'r teulu mynd ar ol cinio - a doedd dim gymaint i ddangos am yr hol drafferth!  Dyma sut wnes i'r jeli cwrens coch- gyda 'muslin'


Ond cymerodd mor hir, nes i drio heb y 'muslin' gyda'r cwrans du - a dyma'r canlyniad:



dau botyn yn unig o bob un! Dwi ddim yn meddwl bydd anrhegion Dolig yn fama rywsut....

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home