Mae’r penglin yn gwella’n raddol ac ar ol yr ymweliad i’r “physio” [dros wythnos yn ol rŵan], r’oedd rhaid i fi fynd i’r ardd i wneud jyst dipyn dipyn bach. Soniais am gynhaeafu’r tatws. Hwre! A wedyn codi dipyn o’r cennin…..
Ond, wrth paratoi’r cennin i wneud cawl dydd Sadwrn, darganfais creaduriaid bach yn y cenin – a r’oedd cyflwr y cennin ddim more dda a ddylsen nhw fod chwaith: roedd rhaid rhoi cryn dipyn o rai blanhigion yn y compost.
Mae ‘na llun yn fama o be welais i yn y cennin:
Creadur bach, epil yr “allium leaf miner”. R’oedd rhaid gwglo fo: d’o’n i rioed wedi clywed am y pry’ma. Mewn ffordd, debyg I’r “carrot fly” sydd hefyd yn hedfan ac yn dodwy mewn planhigion.
Ond mae’r un yma yn ymosod ar cenin, garlleg, sialots, nionod a.y.y.b. Yn ol y gwybodaeth, nae’n anodd iawn trin, heblaw eich bod chi yn gwarchod y cenin dan rhwyd neu fleece – ond dydy hynny ddim yn gweithio’n dda I genin.
Yn 2OO2 cyrrhaeddodd y pryf . Cyn hynny, doedd o ddim yn y wlad. Dwi’n meddwl byddaf yn dechrau’r cenin yn y tŷ gwydr, yn plannu nhw allan ar ol i’r genhedlaeth gyntaf orffen a gobeithio bod y planhigion wedi aeddfedu digon cyn yr ail genhedlaeth o’r pryfed ofnadwy yma. Ond bydd o ddim yn hawdd cadw cenin trwy’r gaeaf felly.
Ond i orffen gyda rywbeth mwy hapus: mae’r adnyweddiad o’r tŷ gwydr wedi cwblhau. Mae dipyn bach mwy o waith ar ol i’w wneud blwyddyn nesa, ar ol i’r tywydd cnesu rywfaint. Ond mae o’n edrych mor dda. A dwi’n brysur clirio a tacluso ty mewn – a digon o waith i’w wneud! Dyma llun o'r to cyn y gwaith:
A dyma'r to ar ol y gwaith:
Ac yn ogystal a'r to newydd, mae'r problemau gyda'r pren yn pydru ty fewn wedi datrus hefyd:
Dyma sut oedd rhan o'r ty gwydr cyn y gwaith: falch iawn bod y gwaith wedi cael ei wneud!
Does dim llun o fama ar ol y gwaith ar y funud ond dyma'r ty gwydr o'r ty allann rwan: edrych yn dda!
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home