Dwi wrth fy modd gyda Un Bore Mercher, sydd ar S4C ar y funud. Rhaid dweud, o’n i’n hoff iawn o Gwen yn Torchwood, blynyddoedd yn ôl a dyma Eve Miles, a oedd yn chwarae Gwen, yn y brif ran. Gwych gweld bod Eve Miles yn chwarae rhan Gymraeg a mae hi wastad mor dda.
Dwi ddim yn siwr faint o bennodau fydd yn y gyfres. Gorffen yn agos i Nadolig, falle? Ar y funud dwi’n gwylio’r cyfres ar Iplayer. Mae’n rhyfedd. O bryd i’w gilydd, mae cyfres ardderchog i’w gael, a does dim byd gwell yn y tywydd llwyd yma na swatio lawr gyda cyfres fel hon.
Heblaw llyfr ardderchog, wrth gwrs, a mwy am hynny yn y man.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home