Wedi methu’n llwyr blogio dros mis Ionawr felly dyma ddechrau’r tymor i fi eleni.
Roedd wythnos dwytha’ n llawn gyda gwaith a chnebrwng yn ardal y llynnoedd. Ond yn ol i MK wythnos yma, a bywyd gwyllt lleol. Fel dwi’n meddwl fy mod wedi dweud o’r blaen, dwi’n aelod o dîm back sydd yn archwilio y mammaliaid sydd yn byw yn y warchodfa gyda arweiniaid a llawer o waith gan swyddogion y Parks Trust, yn enwedig y swyddog “biodiversity’.
Cawsom cyfarfod nos Fercher yn ganolpwyntio ar y foch daear. Mae ‘na ddau set dan ni’n gwybod amdanynt yn y warchodfa, a sawl mochyn daear wedi cael ei ‘ddal’ ar trap camera, ac ambell un wedi cael ei weld. Roeddem yn rhoi bwyd i lawr i’r moch daear gyda pelets bach lliwgar ynddo i weld pa foch daear [o ba set] sydd yn bwyta’r bwyd. Noson mor oer i fod yn crwydro yn y tywyllwch, ond clywson dau beth diddorol hefyd. Rhegen y dŵr oedd y gyntaf: aderyn swil iawn. A tylluan frech oedd yr ail, aderyn dwi heb glywed am ddipyn.
Ond yn gynharach yn y dydd, es i’r warchodfa gyda fy nghamera a lens newydd: newydd dechrau defnyddio’r camera felly mae o yn aros ar ‘automatic’ am rwan. Ac o’r lloches ‘woodland’ , ces y fraint o weld mwnjac a oedd yn pori am dipyn o amser. Mae na boblogaeth go fawr yn yr ardal, ond meant yn swil, a fel arfer yn rhedeg i ffwrdd, ond arhosodd hon am dipyn, yn cerdded o gwmpas a bwyta. Dyma’r llun gorau ges i. Dan ni’n gwybod bod yr annifail yn fenywaidd, oherwydd does dim ‘tusks’ a mewn un llun mae hi’n edrych yn feichiog hefyd. [Eitha tew, beth bynnag!]
Mae'r rhestr o famaliaid yn y warchodfa yn eitha hir; dyma'r rhai dwi'n gwybod amdanynt: llwynog; twrch daear,llŷg y dwr; llŷg gyffredin; llygod [llygoden y coed; llygod bach a hefyd llygoden yr ŷd;llygod mawr; llygoden bengron y dŵr [ a, dwi'n meddwl, llygod bengron arall]; cwningod; gwenciod; dyfrgwn; moch daear; sawl fath o ystlym; ceirw mwntjac a falle'r iwrch hefyd. Mae sgwarnogod i'w gweld yn agos i'r warchodfa, ond hyd at hyd, dim YN y warchodfa.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home