Ailddysgu

Sunday 14 October 2018

Yr ardd yn y hydref

Diwrnod diflas, gwlyb.  Allan bore ’ma yn y glaw trwm gyda Teo ac allan prynhawn yma mewn glaw ysgafn ond pobman yn wlyb a llwyd.  Ond, dan ni wedi bod yn ffodus ofnadwy.  Hon ydy’r glaw trwm cyntaf am sbel - a dydyn ni ddim wedi cael y gwyntoedd ofnadwy a’r llifogydd maent wedi dioddef yng Nghymru - ac yng ngogledd Lloegr.

Beth bynnag, mae’n edrych fel bod yr Hydref dymunol, cynnes - hyd yn oed poeth yn ystod yr wythnos wedi dod i ben.  Am y tro beth bynnag.  Er hynny, mae’r tywydd dda wedi rhoi cynhaeaf arbennig yn yr ardd.

Dyma fasged o bethau o’r ardd ddoe: gellyg - er ei fod yn diweddu rŵan, dan ni wedi cael digon; ciwcymber o hyd - ond eto yn dod i ben; letys a phupurau coch gwych.  


Felly ’roedd yn braf neithiwr cael cinio yn cynnwys llawer o gynhwysion o’r ardd: y salad i gyd o’r ardd; tatws wedi pobi [dim o’r ardd] wedi stwffio gyda sbigoglys a chaws a dipyn o hufen; pupurau wedi ei rhostio.  

Ond efalla y pethau gorau eleni, ar y funud,  ydy’r ffigys. 



 

Bob dydd mae mwy yn aeddfedu ac yn tyfu.  Maent wedi mwynhau y tywydd poeth a wedi ymdopi gyda’r diffyg glaw [wedi cael rwyfaint o ddyfrio pan oedd o’n sych sych sych a phoeth].  Clywais ei fod yn well tynnu’r ffigys bach i ffwrdd oherwydd eu bod yn methu tyfu mewn amser a dim yn parhau dros y gaeaf, ond ’roedd hynny’n rhy anodd - difetha frwythau back perffaith.  A mi ddaethon ymlaen, tyfu ac aeddfedu!  Mae’r coeden wrth yml wal sydd yn gwynebu’r de, felly maent yn cael dipyn o wres.  Ac er bod nhw ddim yn fawr iawn, maent yn ddigon ac yn flasus dros ben.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home