Ailddysgu

Thursday 29 November 2018

Defnyddio’r ipad.....

Dwi wedi gaddo i fy hun fy mod am bostio i fama yn fwy aml.  A mi roedd y cwrs undydd yn y Ganolfan yn Llundain dydd Sadwrn yn sbardun. Diolch i Sion Aled (ein tiwtor) am ddiwrnod da.

Ond bu rhaid mynd a’r Macbook i gae ei drwsio, a bydd o ddim yn ol am dipyn, felly dipyn o her ond gweithio gyda’r ipad. Ond ta waeth, dwi’, benderfynol i wneud mwy yn Gymraeg. Un peth sydd wedi cymryd amser eleni ydy cwrs ffotograffiaeth, felly dyma un neu ddau llun wnes i dynnu gyda lens newydd ( os dwi’n llwyddo i lwytho nhw).






Mae’r dryw bach a’r titw cynffon hir yn cael ei fodrwyo yn y warchodfa lleol. A dwi mor falch bod y cyrsiau un-dydd ar gael yn Llundain. Mae o’n bosib teithio i Gray’s Inn Road heb ormod o drafferth, a mi es ddwywaith wythnos dwythaf. Unwaith ar gyfer cyfarfod y clwb darllen (trafod Cicio’r Bar) ac eto dydd Sadwrn.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home