Ailddysgu

Sunday 6 January 2019

2019


Gyda tynnu’r ardduniadau i lawr mae tymor Dolig a’r flwyddyn newydd wedi gorffen go iawn.  Mae bywyd yn ol i’r arferol – sydd ddim yn beth ddrwg o gwbl.  Ac yn bendant dwi isio garddio mwy eleni.  Yn sgîl y penderfyniad yma, mi es i’r ardd p’nawn ddoe i baratoi un gwely ar gyfer mwy ffa llydan.  Dyma rhai o’r ffa a aeth i fewn ym mis Tachwedd:



Gwneud yn iawn, ond cyn rhoi mwy I fewn dwi isio roi dipyn o faith yn ol i’r pridd – a cyn gwneud hynny rhaid tynu’r hen pridd i roi dipyn o le.   A felly r’on yn rhoi dipyn o’r hen bridd yn y bin compost – a dipyn o’r gompost yn y gwely lle mae’r ffa am fynd.  Eleni doedd dim digon o amser yn cael ei dreilio yn yr ardd. Er hynny r’oedd yn flwyddyn dda a mae rhan o’r cnwd gyda ni o hyd.  Cloddiais y moron ddoe hefyd: gyda’r tywydd mwyn maent yn dechrau tyfu gwreiddiau newydd.  A synnu faint o foron dda sydd gennyn ni.  Gwych! Felly mi wnaf cawl moron ar gyfer yr wythnos i ddod.  A dwi’n edrych  ymlaen at archeb hadau ar gyfer y tymor i ddod.



Dwi hefyd wedi bod yn coginio dipyn dros y penwythnos: un ryseit allan o “Delicious Ella”:  llyfr a phrynais yn Oxfam – ond yn anffodus doedd y ryseit ddim yn llwyddianus ond dim ots, efalla wnes i ddim ei ddilyn o yn ofalus iawn, neu efalla ei fod ddim yn blasu’n dda.  Roedd y pethau eraill yn llwyddianus yn cynnwys y cacen gaws gan Nigella (“Nigella express – hefyd o Oxfam),


y cabaits coch a’r hwmws.  Daeth y teulu draw am ginio Sul a roedd pawb yn canmol y cacen gaws – ond mae hi’n rhywbeth ddylech chi ddim cael gormod ohoni hi. Blasus ond gyda gymaint o hufen ynddi hi…..

Ac ar y comin dwi wedi bod yn tynnu lluniau o’r creciau penddu’r eithin.  Mae par ar y comin yn y gaeaf – ond dydy o ddim yn hawdd cael llun golew.  Dyma’r par:

A’r iar
 a’r ceiliog.  

A rwan – amser gwneud y cawl moron. 

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home