Ailddysgu

Wednesday 30 January 2019

Dechrau Chwefror

Anodd meddwl am yr haf (had yn med y gwanwyn) ar y funud a hithau mor oer a rhewllyd.  Beth bynnag, mi ddaw...ac yn y cyfamser dwi wedi bod yn dechrau cynllunio’r ardd llysiau a wedi prynu tatws.  Mae’n bosib prynu nhw yn rhydd yn Buckingham Nurseries, a dyna be wnes i.  Trip gyda ffrind a phrynu sawl fath yn cynnwys: 
Potato 'Belle de Fontenay' a favourite classic early maincrop French salad potato. It has a smooth, firm, waxy texture with an excellent taste - great for salad and boiling. 
Does dim lle i dyfu ormod o datws - maent yn cymryd dipyn o le, ond does dim gwell na cael tatws o’r ardd ar gyfer cinio.  A maent yn swatio mewn bocs wyau.  Be ydy “chitting” yn Gymraeg tybed?


A dyma fath arall:



Eleni dwi’n trio peidio palu.  Cyfundrefn ’no-dig’, sydd yn well i’r pridd a’r annifeiliad bach sy’n byw yn y pridd.  Ond mae hi braidd yn gynnar i wneud llawer eto.  Be dwi angen gwneud gyntaf ydy clirio’r tŷ gwydr, a rhoi compost ar yr ardd, ond dipyn fesul dipyn.

Un peth dwi wedi gwneud ydy mynd trwy’r pacedi o hadau.  Dwi ddim yn medru taflu nhw, er bod rhai reit hen - felly dwi wedi gwneud rhestr ac ar ol gwneud hynny yn gweld bod ond angedn prynu dau beth: courgettes a cucumber - o ia, a falle pupurau.  Edrych ymlaen at y tyumor arddio beth bynnag.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home