Ailddysgu

Monday 14 January 2019

Lluniau adeiladau: rhan 1

Llynedd dechreuais cwrs fforograffiaeth:  ffotograffiaeth creadigol  Ar ol un tymor, es yn ol a wedyn yn yr Hydref hefyd.  ’Roedd y cwrs yn ddigon leol i fi feicio yna, a r’on am ymuno eleni hefyd.  Yn anffodus doedd dim ddigon o bobl i’r cwrs barhau.  Ond yn ogystal a’r cwrs, dwi’n cyfarfod gyda merched eraill bob fis i rannu a siarad am lluniau - a dan ni’n gosod prosiect bob fis hefyd.  Y tro yma, penderfynnon tynnu lluniau pensaernîaeth: adeiuladau lleol.  Mi wnes i ddehongli’r brosiect yn fras ac er bod gymaint o adeiladau cyfoes yn MK, tynnais lluniau o hen adeiladau hefyd.  Dyma’r rhai o'r lluniau:


Llun o adeiladau o gwmpas Chicheley Hall, rya dair filltir o lle dwi'n byw yw hon.  Mae'r colomendy hyfryd i'w gweld yn y pellter a dyma llun agosach o'r colomendy.  R'on yn aros yn Chicheley Hall ar gyser cyfarfod gwaith, a felly roedd yn bosib tynnu llun un eitha gynnar yn y bore.


Dyma llun o'r ty ei hun:



Llun wedi ei tynnu yn y bore eto.  Mae'r lluniau yn cymryd oes i lwytho i fyny heno felly mwy yn y fan!

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home