Barrug trwchus, niwl a’r haul yn dechrau torri trwy’r niwl.
Dyma’r fath o fore ’roedd hi heddiw - a braf cael cerdded gyda’r ci trwy’r comin. Wedyn ymweliad i’r gwarchodfa natur i weld be oedd o gwmpas. Dim gymaint a hynny ond dyma llun o'r robin goch:
Bore Mercher, a hithau’n ddiwrnod tra wahannol, llwyd ac yn bygythio bwrw roedd criw bach ohonon ni yn trio clirio rhai o’r cyrs i adael fwy i le i’r adar sydd yn nythu ar y ddaear.
Y cam gyntaf oedd hon. Ond diddorol oedd darganfod hen nythod llygod y gwair. Gawn ni weld os byddant yn defnyddio’r nythod ffug dan ni wedi ei osod yn y warchodfa.
0 Comments:
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home