Y Dylluan Wen
Mae’r caeau yn ymestyn o waelod stryd “Chicheley”, ac wrth eu hochr, llwybr cyhoeddus. Ond does dim rhaid cerdded yn bell. Bydd tai yn cael eu hadeiladu yma, a lle bu tyddyn gyda defaid a ieir, mae’r caeau wedi eu gadael, a’r gwartheg wedi mynd. O ganlyniad mae’r caeau gadawedig wedi troi i fod yn dir garw sydd yn rhoi lloches i lygod bengron. Yn eu sgil, daw’r cudyll coch, y bwncath, a’r barcut i hela. Ond heno, fy niddordeb i ydy’r dylluan wen.
Rhaid aros, ac aros. Heblaw swn plant yn chwarae’n swnllyd ac adar yn trydar, mae hi’n ddistaw, a mae rhyw heddwch yma. Dydy’r dylluan ddim yn cadw at amserlen, ond yn sydyn dyma hi, yn hedfan ataf, gyda churiadau adennydd araf, ac eto yn symud yn eitha cyflym. Yr her ydy ei dilyn hi gyda’r lens hir a thrwm. Mae hi’n euraidd yn yr haul hwyr – ond buan fydd y golau’n mynd a finna’n ei throi hi am adre a chael gweld os oes, falle, un llun bach digon agos a mewn ffocws.
1 Comments:
Ysgrif hyfryd a llun arbennig!
Post a Comment
Subscribe to Post Comments [Atom]
<< Home