Ailddysgu

Friday 2 February 2024

Ehedyddion ac arwyddion o'r Gwanwyn i ddod

Mae’r ehedyddion wedi dychwelyd.  Bore dydd Llun, ar y comin, clywais ehedydd yn canu; arwydd o wanwyn ar ei ffordd er nid oedd mis Chwefror wedi cyrraedd eto.  Mae’r ehedyddion yn diflanu yn ystod y gaeaf.  I ble tybed?  Mae rhai rhywogaethau (fel y gylfinir) yn symud i lan y mor dros y gaeaf a mae digon o ehedyddion mewn llefydd arfordirol yn ystod y gaeaf hefyd felly tybiaf mai dyna be sy’n digwydd.

 



Ond mae clywed y gâyn rhoi’r teimlad bod y gwanwyn wir ar ei ffordd. Dwi ddim wedi llwyddo i dynnu llun eto eleni ond dyma lun neu ddau dwi wedi tynnu llynedd neu gynt.  

Mae’r wythnos diwethaf wedi bod yn fwyn a wir yn teimlo fel dechrau Gwanwyn, er mai gynnar yn y flwyddyn ydy hi.  Yn ogystal a’r ehedydd gwelais gwenynen yn ystod yr wythnos hefyd a mae’n dda gwybod bod blodau i roi neithdar a phaill i’r gwenyn.



Blodyn bach hardd sydd yn dechrau blodeuo ym mis Ionawr yn ein gardd ni ydy’r “squill”: blodyn bach glas a mae hi’n dod cyn hyd yn oed yr eirlysiau.



 

  

1 Comments:

At 6 February 2024 at 02:18 , Blogger Wilias said...

Does dim yn well na chân ehedydd i godi calon!

 

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home