Ailddysgu

Tuesday, 11 March 2025

Bywyd gwyllt mis Chwefror a dechrau mis Mawrth

 Wel mae’r tywydd wedi troi, a Gaeaf i’w gweld yn ôl ar ôl wythnos o haul mwyn dechrau mis Mawrth.  Fel sgwennais yn y blog diwethaf llwyddais i fynd i Gaernarfon am sbel fach fach, ond serch hynny gwerth chweil. 

Ac mae natur wedi bod yn garedig hefyd dros y cyfnod diweddaraf.  Daeth aderyn prin i’r comin ym mis Chwefror, “Richard’s pipit”.  Mae hon yn byw yn bell i ffwrdd ac yn nythu mewn gwledydd fel Siberia, Mongolia a rhan o Tsiena ond maent yn mudo i’r De dros y gaeaf fel arfer, ond mae nifer bach, dwi wedi dysgu, yn gaeafu yn y wlad yma.

 

Gyda’r cynnwrf o’r aderyn prin yma ar y comin, daeth haid o adarwyr hefyd, a diddorol oedd cael sgwrs gydag ambell un.  Dysgais fod giachod yn y rhan wlyb o’r comin (dim yn bell o’r maes parcio) ac yn wir, gwelais un yn hedfan.  Adar brown ydy’r rhain, ond maent wir yn brydferth. A hefyd mae “jack-snipe” yna (sydd yn fwy prin), ond dwi ddim wedi gweld y rhain.  Wrth ddilyn yr adarwyr cefais gip ar y “Richard’s pipit”.  Gwahanol iawn i’r arferol corhedydd y waun dan ni’n gweld ar y comin ac yn llawer mwy o ran faint.

 

Dysgais hefyd bod y dylluan wen yn ôl ar y comin.  Ar y dydd Sul ar ôl gweld y gorhedydd prin, es i i’r comin i fynd a’r ci am dro yn y prynhawn ac roedd yr haul yn gynnes.  Syndod felly gweld dylluan wen yn hedfan ryw hanner awr wedi pedwar.  Trïais dynnu lluniau gyda’r camera bach, ond yn anffodus roeddwn wedi troi fideos bach ymlaen heb i fi sylwi!  Es i yna gyda fy ngŵr y diwrnod canlynol, ond wrth gwrs, dim tylluan!  Fel yna mae hi gyda bywyd gwyllt!

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home