Ailddysgu

Monday, 24 March 2025

Taith gerdded niwlog



Dyna oedd y sefyllfa fore Sul a phobman yn dawel iawn mewn un ffordd ond bod yr adar yn canu.  Felly es i am dro heb y sbienddrych (doeddwn i ddim yn medru gweld llawer beth bynnag) a heb y camera - ond, wrth gwrs, roedd y ffôn gyda fi fel arfer.  Ac am y tro cyntaf am oes, defnyddiais i ap “Merlin”.  Daw’r ap yma o America o brifysgol Cornell ac mae o’n ddefnyddiol iawn ar gyfer adnabod caneuon adar

 

Mae o yn adnabod y rhan fwyaf o’r caneuon ond rywsut mae o hefyd yn methu “clywed” rhai, fel cnocell y coed.  Sawl gwaith clywais sŵn y gnocell ond wnaeth yr ap ddim sylwi arni hi, tan i'r gnocell ddod yn eithaf agos.  Ac mae’r ap weithiau yn meddwl bod rhyw aderyn penodol yna er fy mod i’n meddwl ei fod yn annhebyg iawn bod yr aderyn yna wedi ei glywed.  Ond ar y cyfan mae o’n gweithio’n dda.  Mae o’n ffordd dda o edrych allan am ryw aderyn sydd o gwmpas.

 

A gyda’r niwl, roeddwn yn sylwi ar y caneuon llawer mwy nag arfer, sydd yn beth dda.

0 Comments:

Post a Comment

Subscribe to Post Comments [Atom]

<< Home